Arfon Wyn

canwr o Gymro

Canwr a chyfansoddwr o Sir Fôn ydy Arfon Wyn (ganwyd Awst 1952) sy'n adnabyddus am ffurfio a chanu gyda'r band Y Moniars ac ei waith yn dysgu plant mewn ysgolion anghenion arbennig.

Arfon Wyn
GanwydArfon Wyn Humphreys Edit this on Wikidata
26 Awst 1952 Edit this on Wikidata
Llanfair Pwllgwyngyll Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcanwr Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysg golygu

Magwyd Arfon yng Ngwalchmai tan yn 5 oed ac yna yn nhŷ capel yn Llanfair Pwllgwyngyll, Ynys Môn. Mynychodd yr ysgol gynradd leol yno cyn symud i Ysgol David Hughes, Porthaethwy. Bu yng Ngholeg y Normal, Bangor yn astudio Addysg gan ennill gradd anrhydedd Dosbarth Cyntaf am ei astudiaeth o gerddoriaeth i blant a chanddynt anabledd dysgu. Bu hefyd yng Ngholeg Prifysgol Bangor Bala Bangor yn astudio diwinyddiaeth am dair blynedd. Yna yn 1976 aeth i weithio i Ysgol Arbennig Hafon Lôn, Y Ffor.

Cerddoriaeth golygu

Ffurfiodd grŵp o'r enw The Resurrection ar ddiwedd ei amser yn yr ysgol. Grŵp oedd yn canu caneuon "prog rock" yn Saesneg. Daeth y band i ben gyda dyddiau ysgol. Tra ym Mhrifysgol Bangor, ffurfiodd Yr Atgyfodiad, band cristnogol oedd yn cyfuno caneuon Roc eu naws gydag elfennau o neges Cristnogol yn y geiriau. Hwn oedd un o'r grwpiau roc trwm cyntaf yn y Gymraeg. Bu iddynt berfformio llawer ar y teledu ac yn yr Eisteddfodau Cenedlaethol yn y 1970au. Roedd Gwyndaf a Dafydd Roberts yn aelodau o'r Atgyfodiad ac aethant ymlaen i ffurfio y grwp gwerin Ar Log maes o law. Bu iddynt ryddhau un EP vinyl gyda cwmni Sain. Canmolwyd yr EP gan Gruff Rhys yn ei gasgliad o ganeuon ar y CD "Welsh Rarebit".

Wedi i'r Atgyfodiad ddod i ben fe ffurfwyd y grŵp gwerin roc Pererin gyda Charlie Goodall, Einion Williams ac Aneurin Owen. Roedd y band yn boblogaidd yn y sîn roc geltaidd ar ddiwedd y 1970au, gan berfformio yn Llydaw ac Iwerddon. Roeddynt yn perfformio yn aml yn yr Ŵyl Bangeltaidd yn Iwerddon ac mewn gwyliau gwerin arall. Ychydig o sylw gafodd Pererin yng Nghymru ar y pryd, ond ar ddiwedd y 1990au cafodd Haul ar yr Eira, sef albwm gyntaf Pererin, sylw blaenllaw yn y llyfr 3001 Record Collector Dreams#' gan Hans Pokora.[1] Bu'n rhaid i'r albwm gael ei ail rhyddhau o dan label Eidalaidd 'AKARA' i ateb angen byd eang am y gwaith. Ail rhyddhawyd tair albwm arall gan Pererin hefyd, sef Teithgan, Tirion Dir ac Yng Ngolau Dydd[2] yn dilyn llwyddiant Haul ar yr Eira,[3] y tro yma ar label gwerin Sbaenaidd o'r enw 'Guerssen Records'.

Daeth Pererin i ben ddiwedd yr wythdegau, a bu bwlch byr tan iddo ffurfio ei fand nesaf, Y Moniars. Y bwriad oedd creu band tebyg i'r The Pogues ond yn Gymraeg.[4] Roedd blas mwy bywiog ar y gerddoriaeth y tro hwn, a buan yr enillodd y Moniars sylw fel un o fandiau byw mwyaf prysur Cymru. Hyd yma, maent wedi rhyddhau pum casgliad sef: Fe Godwn Eto' (1992), I'r Carnifal (1993), Y Gorau o Ddau Fyd (1995), Hydnoed Nain yn Dawnsio (1996), Methu Cadw ni Lawr (1998), Cae o Yd (2001), Harbwr Diogel (2002), Edrych ymlaen at Edrych yn Ôl (2005), Cyn i'r Haul fynd Lawr (2011).

Bu'r Moniars o'r cychwyn yn fand a roddodd gyfle i sawl cerddor ifanc, ac roedd Harbwr Diogel yn cynnwys caneuon gyda'r gantores Elin Fflur - bu Arfon Wyn yn canu gyda'i mam, Nest Llywelyn, flynyddoedd ynghynt yn y band Pererin. Roedd prif gân yr albym Harbwr Diogel eisoes wedi ennill Cân i Gymru, gwobr yr oedd Arfon Wyn wedi ei hennill yn barod gyda'r gân "Cae o Yd". Mae eu halbym ddiweddaraf Edrych Ymlaen at Edrych yn Ôl (2005) yn cynnwys llais y gantores Sara Mai o Langefni, a llu o gerddorion ifanc eraill.

Llyfryddiaeth golygu

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 3001 Record Collector Dreams Gwefan Amazon. 31-01-2010
  2. Bywgraffiad Pererin. Gwefan Prog Archives.com 31-01-2010
  3. Pedair Albym Pererin wedi eu ail Rhyddhau Gwefan Forcedexposure.com 31-01-2010
  4. Arfon Wyn - Athro, Canwr a Chyfansoddwr BBC Lleol. 31-01-2010