Armorica

Tiriogaeth Celtaidd Gâl rhwng afonydd y Seine a'r Loir, ond defnyddir bellach fel enw amgen ar Lydaw

Armorica neu Aremorica (Galeg: Aremorica; Llydaweg: Arvorig [arˈvoːrik]; Ffrangeg: Armorique [aʁmɔʁik]) yw'r enw a roddir yn yr hen amser i'r rhan o Gâl rhwng yr afonnydd Seina a'r Loir (Loire) sy'n cynnwys Penrhyn Llydaw, gan ymestyn tua'r tir i un pwynt amhenodol ac i lawr Arfordir yr Iwerydd.[1] Mewn cyd-destun gyfoes, fe'i defnyddir fel enw arall ar Lydaw mewn ffordd debyg i Cambria neu Gwalia am Gymru.

Armorica
Enghraifft o'r canlynolrhanbarth Edit this on Wikidata
Map
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Pobloedd Gâl gydag Armorica mewn lelog

Hanes golygu

Cyfnod Clasurol golygu

Yn ei Hanes Naturiol, dywed Plinius yr Hynaf mai Armorica yw enw hynafol Aquitaine ac mae'n crybwyll bod y Pyreneau fel ymyl deheuol y rhanbarth. O ystyried tarddiad Galig yr enw, mae'r datganiad hwn yn gwneud synnwyr os ystyrir nad yw Armorica yn disgrifio gwlad benodol, ond rhanbarth daearyddol y mae ei nodwedd i fod yn wynebu'r môr.

Yr oeddynt yn byw yn Armorica, yn ol Iwl Cesar, llwythau y Coriosoliaid, y Redoniaid, yr Ambibari, y Caletii, yr Osismii, y Lexovii, y Veneti a'r Venelli. Nid yw Cesar yn sôn am y Namnetes y gwyddys eu bod yn byw ar ochr ddwyreiniol Afon Loir, ger ei cheg (Bro-Naoned yn Llydaw heddiw, a roddir eu enw i'r ddinas a'r rhanbarth). Roedd yr Abricantui, y Viducasses / Bodiocasses, ac efallai y Chorisopites hefyd, yn byw yn Armorica. Mae Plinius yr Hynaf yn sôn am yr Armoricians yn ôl pob tebyg yn cyfeirio at drigolion Armorica.

Roedd gan y Weriniaeth Rufain flynyddoedd maith o gysylltiadau masnachol â'r Gâliaid a'r Armoriciaid (gan wahaniaethu rhyngddynt). Fodd bynnag, dychwelodd Armorica gynnyrch Rhufain i'r Llydawyr a'r Belgiaid. Yn y modd hwn, gyda'r Rhyfel Gâl, llwyddodd Rhufain i gael gwared ar y cyfryngwr masnachol, a chyda hynny, ymestynnodd ei thiriogaeth i wneud iawn am y galw am dir gan y plebeiaid (gwerin) Rhufeinig.

Y Goncwest Rhufeinig golygu

 
Arian Stater Celtaidd gan un o lwythi Armorica

Disgrifiwyd y fasnach rhwng Armorica ac Ynysoedd Prydain gan Diodorus Siculus. Wedi ymgyrch Crassus yn 57 CC , cefnogwyd y gwrthwynebiad Armoricaidd i reolaeth y Rhufeiniaid gan aristocratiaid Celtaidd Prydain. Mewn ymateb, goresgynnodd Rhufain Brydain ddwywaith, yn 55 CC a 54 CC, dan orchymyn Iwl Cesar.

Cydffederai llwythau Armorica, y prif lwyth ohonynt oedd y Veneti, yn amser Iwl Cesar, ac ymunodd â gwrthryfel Vercingetorix[2] yn 52 CC. Rheolwyd y rhanbarth gan yr Ymerodraeth Rufeinig o ddiwedd Rhyfel Gâl hyd ddechrau'r bumed ganrif. Fodd bynnag, fe'i rheolwyd yn fwy arwynebol na gweddill Gâl, ac felly ni chwblhawyd y Rhufeiniaid yn llwyr.

Yn yr Ymerodraeth Rufeinig , roedd Armorica yn rhan o dalaith Gâl Lugdunensis, a'i phrifddinas yn Lugdunum (Lyon gyfoes). Pan ad-drefnwyd y taleithiau Rhufeinig yn y 4g, gosodwyd Armorica o dan ail a thrydedd adran Lugdunensis. Gwrthryfelodd Armorica yn erbyn Rhufain ar ddau achlysur yn y bumed ganrif, gan ddiarddel y swyddogion Rhufeinig yr ail waith.

Wedi'r Rhufeiniaid golygu

Gwelodd penrhyn Llydaw fewnfudo pwysig o Geltiaid Prydeinig yn dod yn bennaf o ranbarthau presennol Cernyw a Chymru yn y 5g i'r 7g. Yn ystod y 9g a'r 10g, dechreuodd y Llychlynwyr ymgartrefu ym mhenrhyn Cotentin, a olygai nad oedd yr enw Armorica yn cael ei ddefnyddio, gan ffafrio enw Normandi.

Etymoleg golygu

 
Map o'r pobloedd Galaidd ar diriogaeth Llydaw gyfoes :      Osismii      Veneti      Coriosolites      Redones      Namnetes

Roedd yr ardal forwrol hon o Gâl a'i chefnwlad yn hysbys ar y pryd yn Armorica Celtaidd neu Galaidd cyfandirol "y wlad sy'n wynebu'r môr", gwlad yr Aremorici "y rhai sy'n byw o flaen y môr, ger y môr": Armorica yw Lladineiddiad y term hwn.[3][4]

Gellir gwahaniaethu rhwng y tair elfen Geltaidd ganlynol yn yr enw:

  • are yn dod o'r Indo-Ewropeeg cyffredin, p°ri- "o flaen, ger" (cf. Gwyddeleg aer, ar, i / o flaen; Cymraeg er, ymyl / i / gan; Llydaweg war neu ar, i ),
  • mori "môr" (Gwyddeleg muir, genidol mara; thema yn "i"; Cymraeg a Llydaweg: môr/ mor, lle mae'r arvor cyfansawdd "gwlar ger y mîr" cf. Côtes-d'Armor, gyda threiglad o /m/ a / v/ nodweddiadol o ieithoedd Celtaidd modern)
  • ôl-ddodiad -iko (lluosog -ici "y rhai", #ica, ffurf benywaidd) fel yn Mediomatrici, Arecomici, Latobici, ayyb; a -ika a ddefnyddir i greu enwau ac a ddarganfyddwn yn yr enwau gwledydd Utica (pays d'Ouche), Pertica (Comté du Perche), etc.

Mae sawl dyfyniad yn tystio i'r etymoleg hon:

Diverses citacions testifiquen aquesta etimologia:

Aremorici : antemorini quia are ante, more mare, morici marini.

—Glossari Endlicher, llyfrgellydd yn Llyfrgell y Palatine, Fienna, Awstria, 1836

Aremorici, antemarini quia are ante; cf. arm. mod. « arvor ».

Joseph Loth, Chrestomathie bretonne, armoricain, gallois, cornique, Paris, Émile Bouillon, Llyfrgellydd-golygydd, 1890

Aremorici, (tardif : armorici) « antemarini », var. aremurici (Glossari de Viena) ; irl. « air », gall. bret. « ar- » « sur ».

—Georges Dottin, La Langue gauloise, grammaire, texte et Glossari, Paris, C.Klincksieck, 1920

En gaulois "Aremorica", anciennement " Paremorica ", " le (pays) devant la mer ", nom de la péninsule qui deviendra la Bretagne. Étaient dits aussi Armoricains à l'époque de César, les peuples riverains de la Manche.

—Paul-Marie Duval, Les Celtes, Gallimard, Paris, 1977

Defnydd cyfoes golygu

Mae'r gair Armorica yn dal i fyw hyd at y dydd yma, ond fel rheol i gyfeirio at Llydaw.

Cyfeiriadau golygu

  1. Merriam-Webster Dictionary, s.v. "Aremorica"; The Free Dictionary, s.v. "Aremorica" Archifwyd 2011-06-07 yn y Peiriant Wayback..
  2. Iwl Cesar, De bello gallico VI, 44
  3. Johann Kaspar Zeuss, GRAMMATICA CELTICA e monumentis vetustis tam Hibernicae linguae quam Britannicarum dialectorum Cambriacae Cornicae Aremoricae comparatis Gallicae priscae reliquis construxit I.C.Zeuss, Phil. Dr. Hist.Prof., editio altera curavit. H.Ebel, .Ph. Dr, Acad.Reg.Hib.Soc.Hon., Acad.Reg.Boruss.Adi.Comm.Epist. Berolini, Apud Weidmannos MDCCCLXXI (1871])
  4. Franz Bopp, Grammaire comparée des langues indo-européennes, traducció de Michel Bréal de l'École pratique des hautes études i del Collège de France (de 1866 a 1905), membre de l'Académie des inscriptions et belles-lettres, quatre tome in-quarto, Paris, Imprimerie impériale et Imprimerie nationale, 1866-1874
  5. "Y Cytundeb Cydweithio". Llywodraeth Cymru. 21 Tachwedd 2021. t. 8.

Dolenni allanol golygu