Arnold Schoenberg

cyfansoddwr a aned yn 1874

Cyfansoddwr o Awstria oedd Arnold Schoenberg neu Schönberg[1] (13 Medi 187413 Gorffennaf 1951). Trwy ei gyfansoddiadau ac fel athro, cafodd ddylanwad aruthrol ar gerddoriaeth yng nghanol yr 20g. Fel cyfansoddwr Iddewig, fe'i herlidiwyd gan y Blaid Natsïaidd, a labelodd ei weithiau fel Entartete Musik ("cerddoriaeth ddirywiedig") a'u gwahardd rhag cael eu cyhoeddi. Ymfudodd i'r Unol Daleithiau yn 1933, a daeth yn ddinesydd o'r wlad honno yn 1941.

Arnold Schoenberg
Schoenberg yn Los Angeles, tua 1948
GanwydArnold Franz Walter Schönberg Edit this on Wikidata
13 Medi 1874 Edit this on Wikidata
Fienna Edit this on Wikidata
Bu farw13 Gorffennaf 1951 Edit this on Wikidata
Los Angeles Edit this on Wikidata
DinasyddiaethAwstria, Unol Daleithiau America, Awstria-Hwngari, yr Almaen Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfansoddwr clasurol, arlunydd, cerddolegydd, damcaniaethwr cerddoriaeth, ysgrifennwr, arweinydd, cyfansoddwr, athro cerdd, arlunydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amErwartung, Verklärte Nacht, A Survivor from Warsaw Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth glasurol yr 20fed ganrif, opera, digyweiredd, cyfresiaeth, cerddoriaeth glasurol, Mynegiadaeth, techneg deuddeg-nodyn Edit this on Wikidata
TadSamuel Schönberg Edit this on Wikidata
PriodGertrud Schoenberg, Mathilde Zemlinsky Edit this on Wikidata
PlantGertrud Schönberg, Georg Schönberg, Nuria Nono-Schönberg, Ronny Schönberg, Larry Schönberg Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.schoenberg.org Edit this on Wikidata

Roedd ei gerddoriaeth gynnar yn ymestyn arddulliau cerddorol y cyfansoddwyr Rhamantaidd Brahms a Wagner – arddulliau a ystyriwyd yn anghydnaws yn flaenorol. Roedd yn arbennig o gysylltiedig â'r mudiad Mynegiadaeth ym marddoniaeth a chelf yr Almaen. Datblygodd arddull a oedd yn eithafol yn ei ddefnydd o gromatyddiaeth, mor eithafol fel y daeth i gael ei labelu yn ddigywair; hynny yw, yn perthyn i ddim cywair adnabyddadwy. Yn y 1910au datblygodd y dechneg deuddeg-nodyn, dull o systemateiddio'r defnydd o bob un o'r deuddeg nodyn yn y raddfa gromatig. O'r 1920au ymlaen cafodd y dechneg ddylanwad mawr ar sawl cenhedlaeth o gyfansoddwyr yn Ewrop a Gogledd America.

Yr oedd Schoenberg yn athro cyfansoddi dylanwadol; roedd ei fyfyrwyr yn Ewrop yn cynnwys Alban Berg, Anton Webern, Hanns Eisler, Egon Wellesz, Nikos Skalkottas a Robert Gerhard, ac yn ddiweddarach yn America, John Cage, Lou Harrison, Earl Kim, Leon Kirchner a Dika Newlin.

Bywyd golygu

 
Portread o Schoenberg (1917) gan Egon Schiele
 
Ffotograff o Schoenberg (1927) gan Man Ray

Ganwyd Arnold Schoenberg i deulu Iddewig yn Fienna, Awstria, yn 1874. Roedd ei dad Samuel yn siopwr esgidiau a ddaeth o Hwngari; roedd ei fam Pauline yn athrawes piano a ddaeth o Brag. Roedd Arnold yn hunanddysgedig i raddau helaeth, er iddo gael ychydig o wersi gan y cyfansoddwr Alexander Zemlinsky, a fyddai'n dod yn frawd-yng-nghyfraith iddo yn ddiweddarach.

Yn 1898 cafodd Schoenberg ei dröedigaeth at Gristnogaeth yn yr Eglwys Lutheraidd. Dychwelodd at Iddewiaeth yn 1933, oherwydd sylweddolodd fod ei dreftadaeth hiliol a chrefyddol yn anochel, ac i gymryd safbwynt diamwys yn erbyn Natsïaeth.

Priododd â'i wraig gyntaf, Mathilde (1877–1923), chwaer Zemlinsky, yn 1901. Cawsant ddau o blant, Gertrud (1902–1947) a Georg (1906–1974). Cafodd Mathilde garwriaeth â'r arlunydd Richard Gerstl yn 1908; arweiniodd hyn at argyfwng ym mywyd personol Arnold a chyflymodd ddatblygiad chwyldroadol ei arddull gerddorol.

Ym 1915 cafodd ei ddrafftio i'r fyddin a'i hyfforddi fel swyddog wrth gefn, ac yn 1917 fe'i galwyd i wasanaeth gweithredol fel aelod o fand milwrol.

Bu farw ei wraig Mathilde yn 1923. Y flwyddyn nesaf priododd Schoenberg â Gertrud Kolisch (1898–1967), chwaer ei ddisgybl, y feiolinydd Rudolf Kolisch. Bu iddynt dri o blant: Nuria Dorothea (g. 1932), Ronald Rudolf (g. 1937), a Lawrence Adam (g. 1941).

Yn 1926 daeth Schoenberg yn gyfarwyddwr dosbarth meistr mewn cyfansoddi yn Academi Celfyddydau Prwsia (Preußische Akademie der Künste) ym Merlin. Parhaodd yn ei swydd nes i’r Natsïaid ddod i rym ym 1933. Ffoes gyda'i deulu i'r Unol Daleithiau, ar y dechrau i Boston, ac wedyn i Los Angeles lle bu'n dysgu ym Mhrifysgol De Califfornia ac yn ddiweddarach ym Mhrifysgol Califfornia, Los Angeles.

Bu farw yn Los Angeles yn 1951.

Gweithiau cerddorol golygu

Gweithiau â rhifau opws golygu

  • Op.1: Zwei Gesänge (1898)
  • Op.2: Vier Lieder (1899)
  • Op.3: Sechs Lieder (1899/1903)
  • Op.4: Verklärte Nacht (1899)
  • Op.5: Pelleas und Melisande (1902/3)
  • Op.6: Acht Lieder (1903/5)
  • Op.7: Pedwarawd Llinynnol rhif 1, yn D lleiaf (1904/5)
  • Op.8: Sechs Lieder (1903/5)
  • Op.9: Kammersymphonie rhif 1, yn E mwyaf (1906)
  • Op.10: Pedwarawd Llinynnol rhif 2, yn F♯ lleiaf (1907/8)
  • Op.11: Drei Klavierstücke (1909)
  • Op.12: Zwei Balladen (1906)
  • Op.13: Friede auf Erden (1907)
  • Op.14: Zwei Lieder (1907/8)
  • Op.15: 15 Gedichte aus Das Buch der hängenden Gärten (1908/9)
  • Op.16: Fünf Orchesterstücke (1909)
  • Op.17: Erwartung (1909)
  • Op.18: Die glückliche Hand (1910/13)
  • Op.19: Sechs kleine Klavierstücke (1911)
  • Op.20: Herzgewächse (1911)
  • Op.21: Pierrot Lunaire (1912)
  • Op.22: Vier Lieder für Gesang und Orchester (1913/16)
  • Op.23: Fünf Stücke (1920/23)
  • Op.24: Serenade (1920/23)
  • Op.25: Suite für Klavier (1921/23)
  • Op.26: Quintett (1924)
  • Op.27: Vier Stücke (1925)
  • Op.28: Drei Satiren (1925/26)
  • Op.29: Suite (1924/26)
  • Op.30: Pedwarawd Llinynnol rhif 3 (1927)
  • Op.31: Variationen für Orchester (1926/28)
  • Op.32: Von heute auf morgen (1928)
  • Op.33: Zwei Klavierstücke (1928/31)
  • Op.34: Begleitmusik zu einer Lichtspielszene (1930)
  • Op.35: Sechs Stücke (1930)
  • Op.36: Concerto for Violin and Orchestra (1934/36)
  • Op.37: Pedwarawd Llinynnol rhif 4 (1936)
  • Op.38: Kammersymphonie rhif 2, yn E lleiaf (1906/39)
  • Op.39: Kol nidre (1938)
  • Op.40: Variations on a Recitative (1941)
  • Op.41: Ode to Napoleon Buonaparte (1942)
  • Op.42: Concerto for Piano and Orchestra (1942)
  • Op.43a: Theme and Variations for Full Band (1943)
  • Op.43b: Theme and Variations for Orchestra (1943)
  • Op.44: Preliwd i Genesis Suite (1945)
  • Op.45: Triawd Llinynnol (1946)
  • Op.46: A Survivor from Warsaw (1947)
  • Op.47: Phantasy for Violin with Piano Accompaniment (1949)
  • Op.48: Drei Lieder (1933)
  • Op.49: Es gingen zwei Gespielen gut … (1948)
  • Op.50a: Dreimal tausend Jahre (1949)
  • Op.50b: Psalm 130: De profundis (1950)
  • Op.50c: Moderner Psalm (anorffenedig)

Gweithiau pwysig heb rifau opws golygu

  • Gurre-Lieder (1901/11)
  • Die Jakobsleiter (1915–26, anorffenedig)
  • Moses und Aron (1930–32, anorffenedig)

Gweithiau llenyddol golygu

  • Harmonielehre (Fienna, 1911; 3ydd argraff 1921)
  • Models for Beginners in Composition (Efrog Newydd, 1943)
  • Structural Functions of Harmony (Efrog Newydd, 1948)
  • Style and Idea (Efrog Newydd, 1950)
  • Fundamentals of Musical Composition, gol. Gerald Strang (Efrog Newydd, 1967)

Cyfeiriadau golygu

  1. "Schönberg" oedd sillafiad gwreiddiol ei enw, ond "Schoenberg" oedd y ffurf a fabwysiadodd ei hun ar ôl iddo adael Ewrop.

Llenyddiaeth golygu

  • Hans Heinz Stuckenschmidt, Arnold Schönberg – Leben, Umwelt, Werk (Zürich, 1974)
  • Charles Rosen, Arnold Schoenberg (Efrog Newydd, 1975)
  • Malcolm MacDonald, Schoenberg (Rhydychen, 2008)