Mae arogldarth (Lladin: incendere, "llosgi")[1] yn cynnwys defnyddiau biotig aromatig, megis gymiau planhigol a pherlysiau, sy'n rhyddhau mwg persawrus wrth losgi. Mae'r term "arogldarth" yn cyfeirio at y sylwedd ei hun, yn hytrach na'r arogl ei fod e'n cynhyrchu. Fe'i defnyddir o fewn seremonïau crefyddol, puredigaeth ddefodol, aromatherapi, myfyrdod, am greu hwyl, i guddio aroglau drewi, ac mewn meddygaeth.[2][3][4] Mae'i ddefnydd efallai'n tarddu o Hen Aifft, lle mewnforiwyd gymiau a resinau o goed aromatig o arfordiroedd o Arabia a Somalia er mwyn ei ddefnyddio mewn seremonïau crefyddol.

Arogldarth
Matharteffact, gwrthrych crefyddol, meddyginiaeth Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Arogldarth yn llosgi

Fel arfer, mae arogldarth yn cynnwys deunydd planhigyn aromatig ac olewau hanfodol.[5] Mae dau brif fath o losgi arogldarth, sef "llosgi'n anuniongyrchol" a "llosgi'n uniongyrchol." Mae angen ffynhonnell wres ar wahân ar losgi arogldarth yn anuniongyrchol, hefyd a elwir "arogldarth an-hylosg," oherwydd nid yw'n gallu llosgi ar ei ben ei hunain. Llosgir arogldarth gyda fflam ac yn cael ei wyntyllu wrth losgi arogldarth yn uniongyrchol, hefyd a elwir "arogldarth hylosg." Bydd y marworyn tywyn sydd ar yr arogldarth yn mudlosgi a rhyddhau persawr. Mae enghreifftiau o losgi'n uniongyrchol yn cynnwys ffyn arogldarth (ffyn jos) a chonau neu byramidiau.

Hanes golygu

 
Ffyn arogldarth ym Mynachlog Po Lin, Hong Kong

Mae'r defnydd o arogldarth yn dyddio'n ôl i gyfnodau'r Beibl ac efallai wedi tarddu yn yr Aifft, lle mewnforiwyd y gymiau a resinau o goed aromatig o arfordiroedd Arabia a Somalia er mwyn cael eu defnyddio o fewn seremonïau crefyddol. Defnyddiwyd hefyd gan Pharoaid, nid i wrthweithio aroglau amhleserus yn unig, ond hefyd i alltudio cythreuliaid ac i foddhau presenoldeb y duwiau a duwiesau, fel y credasant.[2]

Defnyddiwch y Babiloniaid arogldarth wrth gynnig gweddïau i oraclau dwyfol.[6] Defnyddiwyd Gwareiddiad Dyffryn Indus llosgyddion arogldarth.[7] Mae tystiolaeth yn awgrymu y defnyddiwyd olewau yn bennaf oherwydd eu harogl. Lledaenwyd arogldarth o hynny i Roed a Rhufain. Daeth mynachod Bwdhaidd Tsieineaidd ag arogldarth i Japan yn y 6ed canrif, sydd wedi defnyddio'r aroglau cyfriniol o fewn eu defodau puredigaeth; daeth yr aroglau cain o Koh (arogldarth Japaneaidd o ansawdd uchel) yn ffynhonnell o ddifyrrwch ac adloniant gyda phobl fonheddig yn Llys yr Ymerodraeth yn ystod y cyfnod Heiaidd 200 mlynedd yn ddiweddarach.

Yn ystod y 14g, fydd rhyfelwyr samurai'n perarogli eu helmedi ac arfogaeth gydag arogldarth er mwyn ennill awra o anorchfygolwydd. Nid oedd tan gyfnod Muromachi yn ystod y 15fed ac 16eg canrif y lledaenodd arbrisiant ar gyfer arogldarth (Kōdō) i ddosbarthiadau uchaf a chanol o gymdeithas Japaneaidd.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1.  The History of Incense. www.socyberty.com.
  2. 2.0 2.1 Maria Lis-Balchin (2006). Aromatherapy science: a guide for healthcare professionals. Pharmaceutical Press. ISBN 0853695784URL
  3. Gina Hyams, Susie Cushner (2004). Incense: Rituals, Mystery, Lore. Chronicle Books. ISBN 0811839931URL
  4. Carl Neal (2003). Incense: Crafting & Use of Magickal Scents. Llewellyn Worldwide. ISBN 0738703362URL
  5. (2000) Cunningham's Encyclopedia of magical herbs. Llewellyn Worldwide. ISBN 0875421229URL
  6. (1960) Foreign trade in the old Babylonian period: as revealed by texts from southern Mesopotamia. Brill Archive. URL
  7. John Marshall (1996). Mohenjo Daro And The Indus Civilization 3 Vols. Asian Educational Services. ISBN 8120611799URL

Darllen pellach golygu