Roedd Arthur George Bottomley, Barwn Bottomley, OBE, PC (7 Chwefror 1907 - 3 Tachwedd 1995) yn wleidydd Llafur Prydeinig, yn Aelod Seneddol ac yn weinidog y goron.[1].

Arthur Bottomley
Ganwyd7 Chwefror 1907 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw3 Tachwedd 1995 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Dŷ'r Arglwyddi, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 48fed Llywodraeth y DU, Aelod o 47fed Llywodraeth y DU, Aelod o 46ed Llywodraeth y DU, Aelod o 45ed Llywodraeth y DU, Aelod o 44ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 43ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 42fed Llywodraeth y DU, Aelod o 41fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 40fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 39fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 38ain Senedd y Deyrnas Unedig, Cynrychiolydd Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata
PriodBessie Ellen Wiles Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Roedd Bottomley yr hynaf o bum plentyn George Howard Bottomley, peiriannydd, ac Alice ei wraig. Mynychodd Ysgol Gynradd Gamuel Road, ac Ysgol Bechgyn Pretoria Avenue yn Walthamstow.[2]

Ym 1936 priododd Bessie Ellen Wiles, ni fu iddynt blant.

Cyn ymuno a'r Senedd, roedd Bottomley yn drefnydd undeb llafur i Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Cyhoeddus (NUPE, a ddaeth yn rhan o UNSAIN yn ddiweddarach). O 1929 hyd 1949 roedd yn gynghorydd ar Gyngor Bwrdeistref Walthamstow, ac ym 1945-1946 bu'n Faer Walthamstow. Fe'i penodwyd yn Swyddog yn Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE) yn Anrhydedd Pen-blwydd 1941.

Gyrfa Seneddol golygu

Etholwyd Bottomley i'r senedd am y tro cyntaf yn etholiad cyffredinol 1945 fel yr aelod dros etholaeth Chatham, Swydd Caint ac fe'i cynhaliodd y sedd (a enwyd yn ddiweddarach yn Rochester a Chatham) hyd iddo ei golli yn etholiad cyffredinol 1959 i'r Ceidwadwr Julian Critchley. Dychwelodd i'r senedd trwy ennill yng Ngorllewin Middlesbrough mewn isetholiad yn 1962 a daliodd y sedd, a'i olynydd Middlesbrough, hyd iddo ymddeol yn 1983.[3].

Gwasanaethodd Bottomley fel gweinidog iau yn llywodraethau Clement Attlee. Bu'n Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol ar gyfer Materion Dominiwn rhwng 1946 a 1947, ac yn Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol ar gyfer Cysylltiadau â'r Gymanwlad ym 1947. Gwasanaethodd fel Ysgrifennydd Masnach Dramor yn y Bwrdd Masnach o 1947 hyd 1951). Yn llywodraethau Harold Wilson gwasanaethodd fel Ysgrifennydd Gwladol dros Gysylltiadau â'r Gymanwlad o 1964 i 1966). Yn ystod y cyfnod hwnnw roedd yn ceisio delio â chanlyniadau Datganiad Annibyniaeth Unochrog Rhodesia. Ym 1966 fe wnaed yn Weinidog dros Ddatblygu Tramor (1966-67).[1]

Fe'i dyrchafwyd i Dŷ'r Arglwyddi fel Barwn am oes, Y Barwn Bottomley, o Middlesbrough yn Swydd Cleveland ar 31 Ionawr 1984.

Marwolaeth golygu

Bu farw'r Arglwydd Bottomley ar 3 Tachwedd 1995 yn 88 oed.[2]

Cyhoeddiadau golygu

  • Why Britain should Join the Common Market, 1959;
  • Two Roads to Colonialism, 1960;
  • The Use and Abuse of Trade Unions, 1961;
  • Commonwealth Comrades and Friends, 1986

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Goldsworthy, D.  (2004, September 23). Bottomley, Arthur George, Baron Bottomley (1907–1995), politician. Oxford Dictionary of National Biography. adalwyd 6 Rhagfyr 2018,
  2. 2.0 2.1 Dalyell, Tam (7 Tachwedd1995). "OBITUARY: Lord Bottomley". The Indipendent. Cyrchwyd 7 Rhagfyr 2018. Check date values in: |date= (help)
  3. (2007, December 01). Bottomley, Baron, (Arthur George Bottomley) (7 Feb. 1907–3 Nov. 1995). WHO'S WHO & WHO WAS WHO.[dolen marw] adalwyd 6 Rhagfyr 2018