Arwyddion ffyrdd Cymru

Arwyddion ffyrdd yng Nghymru

Mae arwyddion ffyrdd Cymru yn ddwyieithog, gyda'r Gymraeg yn ymddangos gyntaf. Mae cynllun a ffurf yr arwyddion fel arall yn dilyn yr un ffurf a glwedydd eraill o fewn y Deyrnas Unedig.

Arwydd ffordd Llanelwedd

Protestio golygu

 
Protestiwr yn gollwng arwyddion ffordd wrth risiau Y Swyddfa Gymreig ym Mharc Cathays, Caerdydd

Yn ol Cymdeithas yr Iaith, buant yn ymgyrchu dros arwyddion ffyrdd dwyieithog yn yr 1960au.[1] Yn ol y canwr Meic Stevens, bu'r gymdeithas wrthi yn paentio arwyddion ffyrdd yn eu hymgyrch a bu'r canwr Dafydd Iwan a'r ymgyrchydd Ffred Ffransis yn arwain ymgyrchoedd.[2]

Bu'r hanesydd John Davies wrthi hefyd. Ar ôl i gynghorydd Sir Benfro wrthod awgrym-gywiriad Dr Davies o newid arwydd "Trevine" i Trefin, cyfnewidiodd Dr Davies yr arwydd ei hun gyda'r sillafiad "Tre-fin" ynghyd a chyorth Meic Stevens. Arddangosodd Davies yr arwydd "Trevine" yn Eisteddfod Abertawe o flaen pabell y Gymdeithas ac fe ddaeth plismon i'w arestio. Gwrthododd yr heddwas ei ddadl fod Davies wedi darparu rhywbeth gwell i'r cyngor, ond gadael wnaeth yr heddwas ar ôl i gannoedd ymgasglu o'u cwmpas.[3]

Yn ôl John Davies, yn dilyn adroddiad Roderic Bowen ar arwyddion dwyieithog yng Nghymru, dyma oedd buddugoliaeth bwysicaf Cymdeithas yr Iaith oherwydd gwnaed y Gymraeg yn amlwg yn mhob rhan o Gymru.[3]

Cyfraith golygu

Yn bu Roderic Bowen yn cadeirio pwyllgor a ddatblygodd bolisi ar gyfer arwyddion ffyrdd dwyieithog i Gymru yn 1970au.[4]

Bu Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn gyfrifol am sicrhau'r egwyddor y dylid trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal mewn busnes cyhoeddus yng Nghymru.[5] Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn cynnwys darpariaeth am statws swyddogol y Gymraeg ac yn sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg.[6]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Amdanom | Cymdeithas yr Iaith Gymraeg". cymdeithas.cymru. Cyrchwyd 2023-05-04.
  2. Stevens, Meic (2011). Mâs o 'Mâ: Hunangofiant Meic Stevens, Rhan Tri (yn Saesneg). Y Lolfa. ISBN 978-1-84771-324-7.
  3. 3.0 3.1 John, Davies (2014-12-12). Fy Hanes I. Y Lolfa. ISBN 978-1-78461-089-0.
  4. "Roderic Bowen yn marw" (yn Saesneg). 2001-07-20. Cyrchwyd 2023-05-06.
  5. "Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 | Cyfraith Cymru". law.gov.wales. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-05-04. Cyrchwyd 2023-05-04.
  6. "Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 | Cyfraith Cymru". law.gov.wales. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-05-04. Cyrchwyd 2023-05-04.