Arwyn Herald

ffotograffydd o Gymro

Ffotograffydd o Gaernarfon a gohebydd i'r papur newydd, Yr Herald ydy Arwyn "Herald" Roberts (ganwyd 1959).

Arwyn Herald
Ganwyd1959 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethffotograffydd Edit this on Wikidata
Blodeuodd2005 Edit this on Wikidata

Mae Arwyn Roberts yn gweithio fel ffotograffydd proffesiynnol ar hyd a lled Cymru yn ogystal â bod yn ohebydd i'r Herald. Cafodd ei Urddo i Orsedd y Beirdd yn 2005 dan yr enw 'Arwyn Herald'.

Cyhoeddodd, gydag Ian Edwards a Thrystan Prithard - gyfrol am gau ffatri Friction Dynamics yng Nghaernarfon a hynny yn 2005. Ar ôl 35 mlynedd o weithio fel ffotograffydd i'r Herald, penderfynnodd Arwyn gyhoeddi Drwy Lygad y Camera, sef llyfr sydd yn cynnwys ei hoff luniau. Cafodd yr elw a wnaethpwyd o ganlyniad i werthu'r copiau ei roi tuag at Ambiwlans Awyr Cymru ac Uned Gofal Dwys Ysbyty Gwynedd.[1] Yn Nhachwedd 2012 cyhoeddodd Pobol Arwyn Herald.[2]

Cyfeiriadau golygu