Asafa Powell
Mae Asafa Powell (ganed 23 Tachwedd 1982) yn sbrintiwr o Jamaica ac yn fab i ddau weinidog, Cislyn Powell a William Powell, ei dad o Linstead, Jamaica. Daliodd y record byd am redeg y 100m rhwng Mehefin 2005 a Mai 2008 gyda amseroedd o 9.77 a 9.74 eiliad. Roedd yn rhan o'r tîm a enillodd fedal aur a thorri y record Byd yn y ras gyfnewid 4x100m yng Ngemau Olympaidd Beijing yn Haf 2008.
Asafa Powell | |
---|---|
Ganwyd | 23 Tachwedd 1982 Spanish Town |
Dinasyddiaeth | Jamaica |
Galwedigaeth | sbrintiwr, cystadleuydd yn y Gemau Olympaidd |
Taldra | 188 centimetr |
Pwysau | 87 cilogram |
Gwobr/au | Bislett medal, Commander of the Order of Distinction |
Gwefan | http://www.asafapowell.net/ |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | Jamaica |