Asanas sefyll

grwp o asanas (neu safleoedd) o fewn ioga

Math o asana, neu osgo'r corff o fewn ioga yw asanas sefyll lle cedwir un neu ddwy droed ar y ddaear, a'r corff fwy neu lai yn syth. Maent ymhlith nodweddion mwyaf nodedig ioga modern, fel ymarfer corff. Hyd at yr 20g ychydig iawn o'r rhain oedd, a'r enghraifft orau yw Vrikshasana, "Y Goeden". O amser Krishnamacharya yn Mysore, mae llawer o asanas sefyll wedi'u creu bellach. Ceir dau fath o asana: dilyniant ymarfer corff Surya Namaskar (Cyfarchiad i'r Haul); a'r gymnasteg a oedd yn cael ei ymarfer yn eang yn India ar y pryd.

Asanas sefyll
'Arlwyddes y Ddawns: dawns Indiaidd glasurol Bharatanatyam: nid ystyriwyd yr asana hon yn ioga go-iawn tan yr 20g.[1]
Mathasana Edit this on Wikidata

Mae tarddiad yr asanas sefyll wedi bod yn ddadleuol ers i Mark Singleton ddadlau yn 2010 bod rhai mathau o ioga modern yn cynrychioli ailweithio radical yr hen draddodiad o ioga hatha, yn benodol trwy ychwanegu asanas sefyll a thrawsnewidiadau (vinyasas) rhyngddynt, a thrwy atal y rhan fwyaf o agweddau an-ystumiol o ioga, yn hytrach na pharhad llyfn o draddodiadau hynafol. Roedd y newidiadau hyn yn galluogi ioga i gael ei ymarfer fel dilyniant neu lif llyfn o symudiadau yn hytrach nag fel ystumiau statig, unigol, a thrwy hyn canolbwyntiwyd ar sesiynau cadw'n heini ac ymarfer corff aerobig.

Mewn ioga hatha golygu

Ymhlith yr ychydig ystumiau sefyll a ymarferwyd yn gwbwl bendant mewn ioga ioga hatha cyn yr 20g mae Vrikshasana, asana a elwir yn aml yn 'Y Goeden'. Fe'i disgrifir yn nhestun ioga hatha a sgwennwyd yn y 17g yn Gheraṇḍa Saṃhitā 2.36.[2] Efallai ei fod yn llawer hŷn na hynny; ymddengys bod cerfiad carreg o'r 7g ym Mahabalipuram yn cynnwys person yn sefyll ar un goes, gan nodi efallai bod asana tebyg i Vrikshasana yn cael ei ddefnyddio bryd hynny. Dywedir i crefyddwyr o fath sadhus ddisgyblu eu hunain trwy fyfyrio yn yr ystum.[3]

 
"Disgyniad y Ganges", sef cerfluniau o graig o'r 7g, ac sy'n 9 x 27 metr, yn Mahabalipuram. Gwelir person yn sefyll mewn asana Vrikshasana (Osgo'r Coed) ar y chwith uchaf.[3]

Amheuir bod rhai asanas sefyll o darddiad canoloesol, heb dystiolaeth ddibynadwy. Un anhawster yw enwi; nid yw bodolaeth ystum canoloesol ag enw ystum sefyll gyfredol yn brawf bod y ddau yr un fath, gan y gall yr enwau a roddir ar asanas newid, a gellir defnyddio'r un enw ar gyfer gwahanol safle. Er enghraifft, defnyddir yr enw Garudasana, 'Yr Eryr', ar gyfer asana eistedd yn y Gheraṇḍa Saṃhitā, 2.37.[2] Rhoddir yr enw Garudasana i asana sy'n debyg iawn i Vrikshasana yn Sritattvanidhi o'r 19g; ni chrewyd yr asana modern o'r enw Garudasana tan yr 20gf.[4][5] Felly, ceir tipyn o dir llwyd gydag enwau'r asanas.

 
Cafodd Surya Namaskar, neu'r Cyfarchiad i'r Haul, ei ymarfer yn bennaf oherwydd ei fod yn ymarfer da i'r corff ac nid fel ioga i dawelu'r meddwl, yn wreiddiol. Ond erbyn y 1930au, cafodd ei ymgorffori mewn ioga modern fel ymarfer corff.[6]

Achos arall yw Utkatasana, a elwir weithiau'n 'Y Gadair', er bod ei enw, Utkata, yn golygu "ffyrnig". Mewn ioga modern, mae'n asana heriol iawn, lle mae'r corff yn cyrcydu a'r cluniau bron yn llorweddol,[7] tra yn Sritattvanidhi yn y 19g fe'i dangosir fel asana cwrcwd isel gyda'r pen-ôl yn gorffwys yn erbyn y sodlau; mae'r Gheraṇḍa Saṃhitā 2.27 yn debyg, ond mae'r sodlau'n cael eu codi.[8]

Surya Namaskar golygu

Surya Namaskar yw prif ffynhonnell asanas sefyll. Yn ei ffurf fodern, cafodd ei greu a'i boblogeiddio gan y Rajah o Aundh, Bhawanrao Shriniwasrao Pant Pratinidhi, yn gynnar yn yr 20g. Fe'i cynigiwyd fel ymarfer ar wahân i ioga Krishnamacharya, a'i ddysgu yn y plasty y drws nesaf i Balas Mysore.[9][10][11]

Ni chofnodwyd Surya Namaskar mewn unrhyw destun ioga Haṭha cyn y 19g.[12] Ystyrir ei asanas sefyll, bellach yn rhan annatod o ioga rhyngwladol modern fel ymarfer corff a'r vinyasas a ddefnyddir mewn rhai arddulliau i drosglwyddo rhwng asanas Surya Namaskar, ac sy'n amrywio rhywfaint rhwng ysgol i ysgol. Yn Ioga Iyengar, gellir mewnosod saleoedd eraill yn y dilyniant sylfaenol.[13] Yn Ioga Ashtanga Vinyasa, mae'r dilyniant sylfaenol yn ymgorffori'r Anjaneyasana a'r asana eistedd Dandasana; mae symudiadau eraill fel Ashwa Sanchalanasana hefyd yn cael eu hymgorffori'n aml.[14]

Asanas golygu

Rhestr Wicidata:

rhif enw isddosbarth o'r canlynol delwedd Cat Comin
Adho Mukha Svanasana (Ci ar i Lawr) asanas sefyll
 
Adho Mukha Svanasana
Anjaneyasana (Lleuad Gilgant) asanas sefyll
asanas penlinio
 
Anjaneyasana
Ardha Candrasana (Hanner Lleuad) asanas sefyll
 
Ardha Chandrasana
Ardha Uttanasana asanas sefyll
Baddha Hasta Utthita Stiti Shalabhasana asanas sefyll
Baddha Hasta Utthita Stiti Vayu Muktyasana asanas sefyll
 
Bhagaritasana asanas sefyll
asanas ymlaciol
 
Eka Pada Sirsa Prapadasana asanas ymestyn
asanas sefyll
Durvasasana
Eka Pada Urdhva Dhanurasana Chakrasana (Yr Olwyn)
asanas sefyll
 
Eka Pada Urdhva Dhanurasana Chakrasana (Yr Olwyn)
asanas sefyll
 
Eka Pada Urdhva Dhanurasana
Eka Pada Vrishchikasana (Sgorpiwn Ungoes ) Vrischikasana (Y Sgorpion)
asanas sefyll
Eka Pāda Rājakapotāsana II Rajakapotasana (Yr Alarch)
asanas sefyll
Eka pada pranam asana (Y Gweddiwr Ungoes) asanas sefyll
Gaja Vadivu (Yr Eliffant) asanas sefyll
 
Garudasana (Yr Eryr) asanas sefyll
ioga Hatha
 
Garudasana
Hasta Uttanasana asanas sefyll
 
Indudalasana asanas sefyll
Lasyasana (Safiad y Cilgant) asanas sefyll
 
Malasana (Y Goron) asanas sefyll
 
Malasana
Natarajasana (Arlwyddes y Ddawns) asanas sefyll
 
Natarajasana
Nindra Utthita Vayu Muktyasana asanas sefyll
 
Niralamba Baddha Eka Pada Uttanasana 2 asanas sefyll
 
Padahastasana asanas sefyll
 
Padahastasana
Parighasana asanas sefyll
asanas penlinio
 
Parighāsana
Parivritta Urdhva Tadasana Urdhva Baddha Hastasana asanas sefyll
Parivritta trikonasana asanas sefyll
 
Parivritta Trikonasana
Parivrtta Ardha Chandrasana (Hanner Lloer â Thro) asanas sefyll
 
Parivrtta Dwi Pada Baddha Utkatasana asanas sefyll
Parivrtta Svarga Dvijasana (Aderyn Paradwys gyda Thro) asanas sefyll
 
Parivṛtta Baddha Parsvakoṇasana asanas sefyll
Parivṛtta Trikoṇāsana asanas sefyll
Parsvottanasana asanas sefyll
 
Parsvottanasana
Patan Vrikshasana 2 Vriksasana (Y Goeden)
asanas sefyll
Prasarita padottanasana (Plygu Mlaen) asanas sefyll
 
Padottanasana
Stiti Urdhva Mukgattana Kulpa Dhanurasana asanas sefyll
Tiryak Tala-Vrikshasana Vriksasana (Y Goeden)
asanas sefyll
Trivikramasana asanas sefyll
 
Trivikramasana
Urdhva Hastasana asanas sefyll
 
Urdhva Hastasana
Urdhva Vrikshasana (Coeden ar i Fyny) asanas sefyll
 
Urdhva Vrikshasana
Utkata Konasana (Y Dduwies) asanas sefyll
 
Utkata Konasana
Utkatasana (Y Gadair) asanas sefyll
ioga Hatha
 
Utkatasana
Uttana Kulpa Prapada Utkatasana 3 asanas sefyll
Uttanasana asanas sefyll
 
Uttanasana
Utthita Parsvakonasana asanas sefyll
 
Utthita Stiti Bhujangasana Bhujangasana (Y Cobra)
asanas sefyll
 
Utthita Tadasana (Seren Pum Pwynt) asanas sefyll
Utthita Trikonásana asanas sefyll
 
Utthita Trivikramasana Trivikramasana
asanas sefyll
 
Utthita ashwa sanchalanasana asanas sefyll
asanas ymestyn
 
Utthita hasta padangustásana asanas sefyll
 
Viparita Virabhadrasana asanas sefyll
Virabhadrasana I asanas sefyll
 
Virabhadrasana
Virabhadrasana II asanas sefyll
 
Virabhadrasana III asanas sefyll
 
Vriksasana (Y Goeden) asanas sefyll
ioga Hatha
 
Vṛkṣāsana
pranamasana asanas sefyll
 
Praṇāmāsana
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Cyfeiriadau golygu

  1. Goldberg, Elliott (2016). The Path of Modern Yoga : the history of an embodied spiritual practice. Inner Traditions. tt. 223, 395–398. ISBN 978-1-62055-567-5. OCLC 926062252.
  2. 2.0 2.1 Rai Bahadur Srisa Chandra Vasu (translator) Gheraṇḍa Saṃhitā
  3. 3.0 3.1 Krucoff, Carol (28 Awst 2007). "Find Your Roots in Tree Pose". Yoga Journal.
  4. Sjoman 1999, tt. 75 and plate 7, pose 39.
  5. Iyengar 1991, tt. 97–98.
  6. Singleton 2010, t. 124.
  7. "Chair | Utkatasana". Yoga Basics. Cyrchwyd 18 Ionawr 2019.
  8. Sjoman 1999.
  9. Singleton 2010.
  10. Alter, Joseph S. (2000). Gandhi's Body: Sex, Diet, and the Politics of Nationalism. University of Pennsylvania Press. t. 99. ISBN 978-0-8122-3556-2.
  11. Pratinidhi, Pant; Morgan, L. (1938). The Ten-Point Way to Health. Surya namaskars... Edited with an introduction by Louise Morgan, etc. London: J. M. Dent. OCLC 1017424915.
  12. Alter 2004.
  13. Mehta 1990.
  14. "Surya Namaskar Variations: How it is done in these 3 popular yoga traditions". The Times of India. 23 Mehefin 2018. Cyrchwyd 14 April 2019.

Llyfryddiaeth golygu

Dolenni allanol golygu