Ayande

ardal weinyddol yn Asturias

Mae Ayande (Sbaeneg: Allande; Astwreg: Ayande) yn ardal weinyddol yng Nghymuned Awtomanaidd Asturias, yng ngwladwriaeth Sbaen. Ei phrifddinas yw La Puela (Pola de Allande yn Sbaeneg).

Ayande
Mathcouncil of Asturies Edit this on Wikidata
PrifddinasPola de Allande Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,552 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethMaría Victoria López Villamarzo Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolQ11690444, Q107553116 Edit this on Wikidata
SirProvince of Asturias Edit this on Wikidata
GwladBaner Sbaen Sbaen
Arwynebedd342.24 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr1,416 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaGrandas de Salime, Pezós, Eilao, Villayón, Tinéu, Cangas del Narcea, Ibias, Negueira de Muñiz Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau43.237147°N 6.688528°W Edit this on Wikidata
Cod post33815, 33885 - 33890 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
mayor of Allande Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethMaría Victoria López Villamarzo Edit this on Wikidata
Map

Ffinir Ayande i'r gorllewin gan ardaloedd gweinyddol yng Ngalisia.

Mae mwyafrif y tir yn yr ardal yn 'Gofeb Genedaethol' ac ymysg ei fforestydd cyfoethog ceir coed yw mil oed ym mhlwyfi Santa Colma a Lago, ac yn fforest coed corc yn Boxu.

Demograffeg golygu

Ayande yw un o'r bwrdeistrefi lleiaf poblog yn Astwrias. Fel gweddill ardaloedd gwledig Astwrias mae wedi colli ei phoblogaeth. Cafwyd dau don o ddi-boblogi yn ystod 20g. Roedd y cyntaf rhwng 1900 ac 1930, pan ymfudodd nifer fawr o bobl i'r Americas, yn arbennig, Ciwba, Puerto Rico, Yr Ariannin a Gweriniaeth Dominica. Cafwyd yr ail don ers 1960 yn sgil dad-ddiwydiannu'r cefn gwlad, gan weld y fwrdeistref yn colli bron i ddau draean o'i phoblogaeth.

Gwyliau Lleol golygu

Dethlir nifer o wyliau lleol yn y Ayande. Ceir Nuestra Señora de Avellano (Our Lady of Avellano) yn Pola de Allande o 7 -10 mis Medi; Nuestra Señora de Belderaman (Our Lady of Belderaman) o 15 Awst. Ceir ffynnon mewn noddfa o'r un enwsydd, yn ôl yr hanes, yn gwella'r goiter.

Ceir hefyd wyliau San Jorge de Monon ar 29 Mehefin; San Pedro de Valbona ar 29 Mehefin; Santa Isabel yn Berducedo ar Sul cyntaf ym mis Gorffennaf; San Cristóbal in Campo el Río ar ail Sul Gorffennaf a San Roque in Fonteta ar 16,17 ac 18 Awst.