Dinas ym Moroco yw Azrou (Arabeg: أزرو‎), a leolir 89 cilometr i'r de o Fez, yn rhanbarth Meknès-Tafilalet. Poblogaeth: tua 60,000 (amcangyfrif 2004).

Azrou
Mathurban commune of Morocco Edit this on Wikidata
Poblogaeth54,350 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iBlois Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTalaith Ifrane Edit this on Wikidata
GwladBaner Moroco Moroco
Uwch y môr1,330 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau33°N 5°W Edit this on Wikidata
Map
Azrou
Marchnad Azrou

Berberiaid yw mwyafrif y trigolion gyda llawer ohonynt yn siarad Berbereg fel mamiaith. Nodweddir canol y ddinas gan doau o deils gwyrdd. Amgylchynir Azrou gan goedwigoedd pinwydd a chedrwydd sy'n enwog ym Moroco.

Yn gorwedd yn yr Atlas Canol, rhwng Meknès, Fez, Ifrane, Midelt a Khenifra, cysylltir Azrou a Meknès, i'r gogledd, gan y ffordd N13.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Foroco. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato