Bae Pegwell

bae yng Nghaint

Bae bas ar arfodir dwyreiniol Caint, De-ddwyrain Lloegr, yw Bae Pegwell (Saesneg: Pegwell Bay).[1] Fe'i lleolir i'r gogledd o Fae Sandwich, rhwng Sandwich a Ramsgate. Mae aber Afon Stour yn ymuno â Chulfor Dover yma.

Bae Pegwell
Mathbae Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCaint
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.3°N 1.4°E Edit this on Wikidata
Cod OSTR356633 Edit this on Wikidata
Map

Mae rhan o'r bae yn warchodfa natur, gyda chynefinoedd glan y môr gan gynnwys traethellau lleidiog a morfa heli lle mae rhydyddion mudol ac adar gwyllt eraill yn dod i fwydo.

Yng ngogledd-ddwyrain y bae mae olion hofranport Hoverlloyd. Roedd gwasanaeth hofranlong traws-sianel a oedd yn cludo cerbydau a theithwyr i Calais, Ffrainc, yn gweithredu oddi yma rhwng 1969 a 1982.

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 14 Mai 2020
  Eginyn erthygl sydd uchod am Gaint. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato