Band pop Cymraeg o'r 1980au oedd Bando gyda Caryl Parry Jones yn brif leisydd a phrif gyfansoddwr caneuon y grŵp. Roedd y band yn nodedig am ei ganeuon pop slic a fideos trawiadol. Un o ganeuon enwocaf y band oedd Chwarae'n troi'n chwerw.

Bando
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata

Ffurfiwyd y band yng Nghaerdydd yn 1979 gan griw o gerddorion oedd wedi bod yn weithgar mewn bandiau Cymraeg ers rhai blynyddoedd. Roedd Myfyr Isaac yn cynhyrchu recordiau'r band yn ogystal â chwarae'r gitâr.[1]

Cynhyrchwyd ffilm ddogfen Shampŵ am y band gan Endaf Emlyn, a fe enillodd wobr Ysbryd yr Ŵyl yng Ngŵyl Ffilm a Theledu Geltaidd, 1983.[2]

Aelodau golygu

  • Rhys Dyrfal Ifans - gitâr fas, llais
  • Caryl Parry Jones - prif lais, piano
  • Huw Owen - sacsoffon, ffliwt, llais
  • Martin Sage - gitâr rythm, trwmped, llais
  • Steve Sardar - gitâr flaen, llais
  • Gareth Thomas - drymiau, llais

Disgyddiaeth golygu

Teitl Caneuon Fformat Label Rhif Catalog Dyddiad ryddhau
Y 'Space Invaders' "Y 'Space Invaders' / Ws ti Be" Sengl 7" Recordiau Sain SAIN 74S 1980
Hwyl ar y Mastiau Ochr 1
  1. Bwgi
  2. De Chwith (Yn Y Gwlith)
  3. O Dan y Dŵr
  4. Ie Dros Gymru
  5. Hwyl Ar Y Mastiau

Ochr 2

  1. Brezhoneg
  2. Dau Lyfr
  3. Aros Yn Yr Unfan
  4. Stiwdio 1
  5. Pan Ddaw Yfory
LP Recordiau Sain SAIN 1198M 1980
Shampŵ Ochr 1
  1. Shampŵ
  2. Tybed Wyt Ti'n Rhy Hen
  3. Aderyn Y Nos
  4. Chwarae Yn Troi'n Chwerw

Ochr 2

  1. Gwawr Tequila
  2. 'Sgen Ti Sws I Mi
  3. O'r Galon
  4. Byd Yn Boen
  5. Nos Yng Nghaer Arianrhod
LP/Caset Recordiau Sain 12" - SAIN 1225M
Caset - C825N
1982

Dolenni allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1.  CARYL PARRY JONES - Bywgraffiad. Sain. Adalwyd ar 2 Mawrth 2017.
  2. (Saesneg) Emlyn, Endaf (1944-). BFI. Adalwyd ar 2 Mawrth 2017.