Baner America

papur newydd Cymraeg yn yr Unol Daleithiau

Papur newydd Cymraeg a gyhoeddwyd gan Gymry yn yr Unol Daleithiau oedd Baner America.

Baner America
Enghraifft o'r canlynolpapur newydd Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dechreuwyd1868 Edit this on Wikidata
Daeth i ben1877 Edit this on Wikidata
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Erthygl am y papur newydd yw hon. Am faner genedlaethol yr Unol Daleithiau (UDA), gweler Baner yr Unol Daleithiau.

Cychwynnwyd y papur yn y flwyddyn 1868 gan Gwmni Cymreig Hyde Park, Pennsylvania. Y golygyddion cyntaf oedd Morgan A. Ellis, Frederick Evans a David Parry ('Dewi Moelwyn'). Gweithredodd Henry M. Edwards fel rheolydd y wasg. Yn nes ymlaen ymadawodd yr rhain a phenododd pwyllgor y cwmni Thomas B. Morris ('Gwyneddfardd') yn olygydd a W. S. Jones yn rheolwr a symudwyd y swyddfa i Scranton, Luzerne, Pennsylvania.

Deuai Baner America allan yn wythnosol. Pris tanysgrifiad blwyddyn oedd $2. Daeth y papur i ben yn 1877.

Ffynhonnell golygu

  • T. M. Jones (Gwenallt), Llenyddiaeth fy Ngwlad, sef hanes y newyddiadur a'r cylchgrawn Cymreig... (Treffynnon, 1893). Pennod V.

Gweler hefyd golygu