Baner drilliw lorweddol gyda stribed uwch glas, stribed is gwyrdd, a stribed canol coch gyda chilgant a seren wyth-pwynt gwyn yn ei ganol yw baner Aserbaijan. Lliw a gysylltir â'r pobloedd Tyrcaidd yw glas, mae coch yn cynrychioli dylanwad Ewropeaidd yn y wlad, a gwyrdd yw lliw traddodiadol Islam: mae'r lliwiau yn cynrychioli arwyddair Aserbaijan i "Dyrceiddio, Islameiddio, ac Ewropeiddio" (nid yw hyn yn arwyddair cenedlaethol swyddogol). Symbol Islam yw'r cilgant a'r seren; mae pob pwynt ar y seren yn cynrychioli pobl Dyrcaidd. Daeth yr ysbrydoliaeth am y cilgant a'r seren o faner Twrci. Defnyddiwyd y faner yn gyntaf (gyda'r cilgant a seren yn y hoist ac yn gorgyffwrdd â'r tri stribed) yn y cyfnod byr o annibyniaeth fel Gweriniaeth Ddemocrataidd Aserbaijan rhwng 1918 a 1920,[1] ac yn ystod cyfnod Gweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Aserbaijan defnyddiwyd amrywiadau ar y Faner Goch. Yn dilyn cwymp UGSS mabwysiadwyd y faner gyfredol ar 5 Chwefror, 1991.

Baner Aserbaijan
Enghraifft o'r canlynolbaner cenedlaethol Edit this on Wikidata
CrëwrAli bey Huseynzade Edit this on Wikidata
Lliw/iaulight blue, coch, gwyrdd, gwyn Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu9 Tachwedd 1918 Edit this on Wikidata
Genrehorizontal triband Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Baner Aserbaijan

Ffynonellau golygu

  1. (Saesneg) Republic of Azerbaijan, 1918-1920. Flags of the World. Adalwyd ar 25 Awst.
  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)