Mae Binig (Ffrangeg: Binic, Galaweg: Binic) yn gymuned (Llydaweg: kumunioù; Ffrangeg: communes) yn Departamant Aodoù-an-Arvor (Ffrangeg| Département Côtes-d'Armor), Llydaw. Mae'n 11 km o Sant-Brieg; 381 km o Baris a 426 km o Calais[1]

Binig
Mathcymuned, delegated commune Edit this on Wikidata
Poblogaeth3,826 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Llydaw Llydaw
Arwynebedd5.96 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaLannidig, Porzhig Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau48.6019°N 2.8253°W Edit this on Wikidata
Cod post22520 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Binig Edit this on Wikidata
Map

Economi golygu

Mae Binig yn dref glan môr poblogaidd sydd yn enwog am ei draethau. Mae'r dref wedi ei leoli yn rhan orllewinol bae Saint-Brieuc. Mae ei marina yn hygyrch yn unig ar lanw uchel ac yn cynnig 500 o leoedd i gychod.

Cyn dod yn gyrchfan i dwristiaid roedd Binig yn borthladd pysgota o gryn bwys a oedd yn danfon llongau pysgota i'r moroedd o amgylch yr Gwlad yr Iâ ac arfordir Canada ac yn un o borthladdoedd penfras mwyaf Ffrainc; bu hefyd yn borthladd pwysig ar gyfer mewnforio coed, blawd a llysiau.

Bu dirywiad yng ngweithgaredd y porthladd ers y 1920, er bod rhywfaint o bysgota am sgolop yn parhau o hyd.

Ers dirywiad y porthladd mae twristiaeth wedi dod yn fwyfwy poblogaidd i'r dref.[2]

Mae Binig hefyd yn enwog am nifer o'r gwyliau sydd yn cael eu cynnal yno, gan gynnwys gŵyl canu gwerin a'r felan flynyddol sy'n gyrchfan i hyd at 40,000 o bobl.[3] Mae'n ffinio gyda Lannidig, Porzhig ac mae ganddi boblogaeth o tua 3,826 (1 Ionawr 2018).

Poblogaeth hanesyddol golygu

Tabl newid poblogaeth: blwyddyn nifer
1831 1836 1841 1846 1851 1856 1861 1866 1872
1 828 2 229 2 324 2 407 2 640 2 811 2 673 2 738 3 458
1876 1881 1886 1891 1896 1901 1906 1911 1921
2 457 2 231 2 379 2 222 2 305 2 247 2 231 2 356 2 342
1926 1931 1936 1946 1954 1962 1968 1975 1982
2 223 2 141 2 140 2 241 2 261 2 099 2 212 2 326 2 602
1990 1999 2008 2013 - - - - -
2 798 3 110 3 528 3 825 - - - - -

Galeri golygu

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. BINIC TOURISM AND TRAVEL GUIDE
  2. Gwefan y dref (Ffrangeg)
  3. "Folks Blues Festival : comment gérer l'affluence". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-05-04. Cyrchwyd 2016-08-20.
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: