Bioddaearyddiaeth

Astudiaeth o wasgariad bioamrywiaeth yn enwedig rhywogaethau'r Ddaear - dros gyfnod o amser - yw bioddaearyddiaeth. Mae'n ceisio dadlennu lle mae organebau yn byw ar y blaned, o ran uchter, a lleoliad daearyddol a o ran ynysu'r rhywogaeth a'i gynefin. Gellir rhannu'r maes hwn yn ddwy gangen: llysddaearyddiaeth, sef yr astudiaeth o blanhigion a sõoddaearyddiaeth sef yr astudiaeth o anifeiliaid.[1][2]

Bioddaearyddiaeth
Enghraifft o'r canlynolcangen o ddaearyddiaeth, pwnc gradd, cangen o fywydeg Edit this on Wikidata
Mathbywydeg, daearyddiaeth ffisegol Edit this on Wikidata
Rhan oBiogeography and phylogeography Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Tudalen flaen llyfr y Cymro a'r esblygwr Alfred Russel Wallace: The Geographical Distribution of Animals

Mae'r patrymau gwasgariad yn cael ei effeithio gan ffactorau hanesyddol megis ffurfiant rhywogaethau, difodiant, drifft cyfandirol, rhewlifiad ac amrywiadau mewn lefelau'r môr, cyrsiau afonydd, rhyngipiad afon a llysdyfiant.

Roedd gwybodaeth am y gwahanol fathau o organebau, eu niferoedd a'u nodweddion yr un mor bwysig yn y gorffennol ag y mae i ni heddiw, wrth i fodau dynol addasu i hinsoddau anghydryw (heterogeneous), ond rhagweladwy i ryw raddau. Mae bioddaearyddiaeth yn faes rhyngweithredol sy'n uno sawl cysyniad o ecoleg i esblygiad, o ddaeareg i ddaearyddiaeth ffisegol.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. Geiriadur Brws: termau. Adalwyd 23 Awst 2016.
  2. Brown University, "Biogeography." Adalwyd 24 Chwefror 2014. http://biomed.brown.edu/Courses/BIO48/29.Biogeography.HTML.
  3. Dansereau, Pierre. 1957. Biogeography; an ecological perspective. New York: Ronald Press Co.
  Eginyn erthygl sydd uchod am fioleg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.