Blodeugerdd

antholeg o gerddi

Detholiad o gerddi wedi'u casglu ynghyd yw blodeugerdd. Fel rheol mae rhyw thema neu berthynas rhwng y cerddi hynny, er enghraifft cerddi serch, cerddi ar yr un mesurau, neu gerddi gan feirdd sy'n perthyn i'r un genedl neu gyfnod, ac ati.

Blodeugerdd
Enghraifft o'r canlynolffurf llenyddiaeth Edit this on Wikidata
MathGroup of Poems, cyhoeddiad, collection of literary works Edit this on Wikidata
Yn cynnwyscerdd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Rhai o'r blodeugerddi cynharaf oedd anthologia' y Groegiaid, gan gynnwys y casgliad o epigrammau a elwir Y Flodeugerdd Roegaidd. Ceid blodeugerddi mewn sawl iaith a diwylliant arall yn ogystal, gan gynnwys Tsieina, Siapan, Persia a'r byd Arabaidd.

Un o'r blodeugerddi Cymraeg cynharaf yw Gorchestion Beirdd Cymru, a olygwyd gan Rhys Jones o'r Blaenau a'i chyhoeddi yn 1773.

Gweler hefyd golygu

Chwiliwch am blodeugerdd
yn Wiciadur.
  Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.