Bob Gould

chwaraewr rygbi'r undeb Cymreig

Roedd Bob Gould (1863 - 29 Rhagfyr 1931) yn flaenwr rygbi rhyngwladol Cymru a chwaraeodd rygbi clwb i Glwb Rygbi Casnewydd . Enillodd 11 cap i Gymru a fu'n gapten ar gyfer un gêm. Mae Gould yn fwyaf adnabyddus ym myd rygbi fel brawd Arthur Gould, un o sêr fawr cyntaf rygbi Cymru.[3]

Bob Gould
Bob Gould
Enw llawn Robert Gould
Man geni Casnewyddt
Lle marw Nice, Ffrainc[1]
Perthnasau nodedig Arthur Gould (brawd)
Bert Gould (brawd)
Gyrfa rygbi'r undeb
Gyrfa'n chwarae
Safle Blaenwr
Clybiau amatur
Blynyddoedd Clwb / timau
???
1879-1887
???
Cymry Llundain
Casnewydd
Richmond R.F.C.
Timau cenedlaethol
Blynydd. Clybiau Capiau
1882-1887 Wales 11[2] 0[2]

Cefndir golygu

Ganwyd Gould yng Nghasnewydd yn un o leiaf 14 o blant Joseph Gould, peiriannydd nwy ac Elizabeth ei wraig. Bu pedwar o'i frodyr hefyd yn chwaraewyr rygbi i dîm Casnewydd a fu dau ohonynt yn chware i Gymru.[4]

Gyrfa golygu

Dechreuodd Gould ei fywyd gwaith trwy ddilyn yn ôl traed ei dad a gweithio fel peiriannydd nwy. Ffurfiodd ef a rhai o'i frodyr cwmni peirianyddol cyffredinol a fu'n gweithio ar brosiectau megis codi pontydd a systemau dŵr ym mhob rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig.[5]

Gyrfa rygbi golygu

Chwaraeodd Gould y rhan fwyaf o'i rygbi clwb gyda Chasnewydd, gan dreulio 8 tymor gyda'r clwb rhwng 1879 a 1887. Bu'n gapten ar Gasnewydd yn ei dymor olaf.

Gyrfa ryngwladol golygu

Cafodd Gould ei gapio gyntaf i Gymru yn erbyn Iwerddon ar 28 Ionawr 1882. Chwaraeodd i Gymru 10 gwaith arall, gan fod yn gapten ar y tîm yn erbyn yr Alban ar 26 Chwefror 1887. Byddai Gould yn chwarae ei bum gêm ryngwladol olaf gyda'i frawd iau Arthur a nodir mai gêm yr Alban ym 1885 yw'r gêm rygbi ryngwladol gyntaf i gael brodyr ar y ddwy ochr. Y brodyr Gould i Gymru a George a Richard Maitland ar gyfer yr Alban.

Gemau rhyngwladol golygu

Cymru [6]

Llyfryddiaeth golygu

  • Parry-Jones, David (1999). Prince Gwyn, Gwyn Nicholls and the First Golden Era of Welsh Rugby. Penybont ar Ogwr: seren. ISBN 1-85411-262-7.
  • Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.
  • Davies, John; Jenkins, Nigel (2008). The Welsh Academy Encyclopaedia of Wales. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 978-0-7083-1953-6.

Cyfeiriadau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Newport RFC player profile Archifwyd June 17, 2011, yn y Peiriant Wayback.
  2. 2.0 2.1 "Newport Gwent Dragons: Past player profiles". www.newportgwentdragons.com. 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-05-18. Cyrchwyd 2008-07-31.
  3. "South Wales Football Players, Mr R Gould - South Wales Echo". Jones & Son. 1886-02-24. Cyrchwyd 2020-06-14.
  4. "THE WELSH FIFTEEN - South Wales Echo". Jones & Son. 1895-03-16. Cyrchwyd 2020-06-14.
  5. "WALES DAY BY DAY - The Western Mail". Abel Nadin. 1891-09-25. Cyrchwyd 2020-06-14.
  6. Smith (1980), pg 466.