Boneddwr Mawr o'r Bala

Cân werin draddodiadol yw Boneddwr Mawr o'r Bala.

Boneddwr Mawr o'r Bala
Enghraifft o'r canlynolgwaith neu gyfansodiad cerddorol Edit this on Wikidata

Geiriau golygu

Boneddwr mawr o’r Bala
Ryw ddiwrnod aeth i hela
Ar gaseg denau ddu
Ar gaseg denau ddu.
Ha ha ha ha ha
Ar gaseg denau ddu.

Carlamodd yr hen gaseg
O naw o’r gloch tan ddeuddeg
Heb unwaith godi pry.

O’r diwedd cododd lwynog
Yn ymyl tŷ cymydog
A’r corn a roddodd floedd.

Yr holl fytheid redasant
A’r llwynog coch ddaliasant
Ond ci rhyw ffarmwr oedd.

Wrth ddod yn ol o’r hela,
Daeth y boneddwr tila
I groesi hen bont bren.

Ond ‘chana i ddim ychwaneg
Fe syrthiodd efo’i gaseg
I’r afon dros ei ben.