Braeriach, Gaeleg yr Alban: Bràigh Riabhach neu Am Bràigh Riabhach ydy'r ail fynydd uchaf ym mynyddoedd y Cairngorms yn Ucheldiroedd yr Alban; cyfeiriad grid NN953999 a'r trydydd mynydd uchaf yng ngwledydd Prydain ar ôl Ben Nevis a Ben Macdhui.

Braeriach
Mathmynydd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodolParc Cenedlaethol y Cairngorms Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Uwch y môr1,296 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau57.078298°N 3.728389°W Edit this on Wikidata
Cod OSNN9532899906 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd461 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaBen Macdhui Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddCairngorms Edit this on Wikidata
Map

Yng nghwm Garbh Coire Mor ar y mynydd, dim ond pum gwaith y mae'r eira wedi dadmer yn llwyr mewn canrif; yn 1933, 1959, 1996, 2003 a 2006.

Ceir carnedd ar y copa. Mae Afon Dee (Swydd Aberdeen) yn tarddu ar y mynydd.

Dosberthir copaon yr Alban yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'nMarilyn, Munro, Murdo a HuMP. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghyd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Gwneir bob ymdrech i ganfod yr enw yn yr iaith wreiddiol, a gwerthfawrogwn eich cymorth os gwyddoch yr enw Gaeleg.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu