Brecwast Astronot (albwm)

Albwm gan y canwr Cymraeg Geraint Jarman yw Brecwast Astronot. Rhyddhawyd yr albwm ym Mai 2011 ar y label Ankstmusik.

Brecwast Astronot
Clawr Brecwast Astronot
Albwm stiwdio gan Geraint Jarman
Rhyddhawyd Mai 2011
Label Ankstmusik

Mae Geraint Jarman yn un o griw bychan, dethol o gerddorion Cymraeg sydd wedi llwyddo i oroesi a phontio sawl degawd, gan esblygu yn ôl y gofyn, a parhau i swnio’n ffres. Rhyddhaodd ei albwm unigol cyntaf, Gobaith Mawr Y Ganrif, ym 1976. Yn 2011 - 35 mlynedd yn ddiweddarach – rhyddhawyd Brecwast Astronot ac mae wedi llwyddo i ffeindio sŵn newydd, ffres i’w hun unwaith eto.

Dewiswyd Brecwast Astronot yn un o ddeg albwm gorau 2011 gan ddarllenwyr cylchgrawn Y Selar.[1]

Canmoliaeth golygu

Hir yw pob aros, medde nhw, a'r albwm yn profi fod e'n werth yr aros. Yr uchafbwynt i fi yw'r gân 'Brecwast Astronot' ei hun, gyda geirie arallfydol, hudol Jarman yn eistedd yn berffaith gyda'r gerddoriaeth wych.

—Huw Stephens, Y Selar

Cyfeiriadau golygu