Brwydr Hexham

Brwydr olaf y brenin Brythonig Cadwallon ap Cadfan o Wynedd

Brwydr olaf y brenin Brythonig Cadwallon ap Cadfan o Wynedd oedd Brwydr Hexham (Saesneg: Battle of Heavenfield) a ymladdwyd yn 634. Lladdwyd Cadwallon gan fyddin Oswallt, Brenin Northumbria ac yn ôl yr hanesydd John Davies yn ei lyfr Hanes Cymru, mai'r flwyddyn 634 yn "dynodi diwedd y posibilrwydd o adfer penarglwyddiaeth y Brythoniaid ym Mhrydain."[1]

Brwydr Hexham
Enghraifft o'r canlynolbrwydr Edit this on Wikidata
Dyddiad634 Edit this on Wikidata
LleoliadHexham Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethBrynaich Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Sant Columba

Mae'r Annales Cambriae yn cofnodi'r frwydr fel Bellum Cantscaul yn 631 a Beda yntau'n ei alw'n Frwydr Deniseburna ger Hefenfelth.

Y frwydr golygu

Symudodd y fyddin Gymreig i ogledd Swydd Efrog. Angorodd Oswallt ei filwyr ger Fur Hadrian tua phedair milltir i'r gogledd o Hexham. Yn ystod y nos (yn ôl y chwedl) ymddangosodd Sant Columba o flaen Oswallt, mewn breuddwyd, gan broffwydo iddo fuddugoliaeth. Trodd Oswallt ei filwyr i wynebu'r dwyrain, gydag ochrau'r fyddin yn cael eu hamddiffyn gan Brady's Crag yn y gogledd a Mur Hadrian i'r de. Yn ôl Beda, cododd groes a dechreuodd weddio.

Ymosododd y Cymry, gan fethu ymosod ar ochrau'r fyddin Sacsonaidd, a dechreuant adael faes y gad i gyfeiriad y de a daliwyd a lladdwyd Cadwallon mewn lle o'r enw "Nant Denis" (Saesneg: "Brook of Denis"), a adnabyddir heddiw fel 'Rowley Burn'. Roedd hon yn fuddugoliaeth bwysig i Oswallt a chredir fod llawer iawn o Gymry wedi'u lladd. Yn ddiweddarach, daethpwyd i alw'r safle yn "Heavenfield" ("Hefenfelth").

Y safle heddiw golygu

Ar ochr y ffordd sydd i'r dwyrain o Chollerford, sy'n rhedeg ar hyd Mur Hadrian (sef y B6318) saif croes garreg sy'n nodi'r fan lle ymladdwyd Brwydr Hexham. Ar y bryncyn i'r gogledd o'r groes hon, saif eglwys ble credir i Oswallt godi ei faner.[2]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. John Davies, Hanes Cymru (Penguin Books, 1990), tudalen 66.
  2. GoogleMap