Buddugre

cwmwd yn Nhernas Powys

Cwmwd yng nghantref Maelienydd, yn y rhanbarth yng nghanolbarth Cymru a adnabyddid fel Rhwng Gwy a Hafren yn yr Oesoedd Canol, oedd Buddugre. Ystyr yr enw yw "Bryn y Fuddugoliaeth".

Buddugre
Mathcwmwd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolTeyrnas Powys Edit this on Wikidata
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.308056°N 3.308048°W Edit this on Wikidata
Map

Gyda Rhiwlallt a Dinieithon, roedd yn un o dri chwmwd cantref Maelienydd. Dyma'r mwyaf gogleddol o'r tri chwmwd, ar lannau afon Ieithon.

Mae ei hanes cynnar yn dywyll. Mae'n debyg y bu'n rhan o Deyrnas Powys yn yr Oesoedd Canol Cynnar pan roedd tiriogaeth y deyrnas honno yn ehangach. Ei brif ganolfan yng ngyfnod rheolaeth arglwyddi Normanaidd y Mers oedd Castell Buddugre (12g), ger Llanddewi Ystradenni. Yn nes ymlaen, fel gweddill Maelienydd, daeth yn rhan o Sir Faesyfed yn 1536.

Gweler hefyd golygu

     Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.