Bwrdeistref Fetropolitan St Helens

bwrdeistref fetropolitan yng Nglannau Merswy

Bwrdeistref fetropolitan yng Nglannau Merswy, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Bwrdeistref Fetropolitan St Helens (Saesneg: Metropolitan Borough of St Helens).

Bwrdeistref Fetropolitan St Helens
Mathbwrdeistref fetropolitan Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolGlannau Merswy
PrifddinasSt Helens Edit this on Wikidata
Poblogaeth180,049 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1974 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGlannau Merswy
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd136.3587 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.454°N 2.746°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE08000013 Edit this on Wikidata
GB-SHN Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholcouncil of St Helens Metropolitan Borough Council Edit this on Wikidata
Map

Mae gan y fwrdeistref arwynebedd o 136 km², gyda 180,585 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ar Fwrdeistref Fetropolitan Knowsley i'r gorllewin, Swydd Gaerhirfryn i'r gogledd ac i'r gogledd-ddwyrain, a Swydd Gaer i'r de-ddwyrain ac i'r de.

Bwrdeistref Fetropolitan St Helens yng Nglannau Merswy

Ffurfiwyd y fwrdeistref dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974.

Rhennir y fwrdeistref yn saith plwyf sifil, gydag ardal ddi-blwyf sy'n cynnwys tref St Helens, lle mae ei phencadlys. Mae aneddiadau eraill ynddi'n cynnwys tref Newton-le-Willows.

Cyfeiriadau golygu

  1. City Population; adalwyd 17 Gorffennaf 2020