Cân i Gymru 1989

Cynhaliwyd cystadleuaeth Cân i Gymru 1989 ar 19 Mawrth. Enillydd y gystadleuaeth oedd Hefin Huws gyda'r gân 'Twll Triongl'. Cyflwynwyd y rhaglen gan Nia Roberts. Dewiswyd 8 can o 133 o geisiadau.

Roedd ugain o feirniaid mewn 5 categori:

  1. Cantorion: Bryn Fon, Linda Healy, Robin Eiddior, Delyth Medi
  2. Cyfansoddwyr: Tecwyn Ifan, Tudur Morgan, Tony Elliott, Cerys Edwards
  3. Aelodau Cor Rhuthun a'r Cylch: Donald Roberts, Bethan Gwyn Davies, Sharon Williams, David Williams
  4. Aelwyd Crymych: Delyth Jones, Wyn Jones, Sara Wyn Rees, Eirian John.
  5. Cynulleidfa'r stiwdio: Elwy Owen, Anwen Jones, Arthur Jones, Falmai Edwards.
Trefn Artist Can Cyfansoddw(y)r
01 Hefin Huws Twll Triongl Hefin Huws a Les Morrison
02 Nerys Jones Ni Wawria Yfory Leah Owen a Selwyn Griffiths
03 Gillian Elisa Dewch i'r Ddawns Heulwen Evans
04 Arfon Wyn a Lleisiau Llanddwyn Talu'r Pwyth yn Ol Arfon Wyn
05 Y Cynghorwyr Yr Ynys Dylan Huws
06 Mari Rhian Owen Nos ar Ben Mari Rhian Owen
07 Caryl Parry Jones Rhywun Geraint Cynan a Gareth F Williams
08 Penri Roberts Pan Ddel Mai Linda Griffith, Penri Roberts, a Derec Williams
Cân i Gymru 1989
Rownd derfynol 19 Mawrth 1989
Lleoliad Llandudno
Artist buddugol Hefin Huws
Cân fuddugol Twll Triongl
Cân i Gymru
◄ 1988        1990 ►