C.P.D. Merched Tref Aberystwyth

clwb pêl-droed merched

Mae C.P.D. Merched Tref Aberystwyth yn dîm pêl-droed, sy'n chwarae yn Uwch Gynghrair Merched Cymru, y buont yn aelodau sylfaenol ohono yn 2009.[1] Yn wir, chwaraewyd gêm gyntaf erioed y gynghrair newydd, a adnabwyd fel Cynghrair Merched Cymru yn Aberystwyth pan chwaraeodd Aber yn erbyn C.P.D. Merched Llanidloes ym mis Medi 2009.[2]

Merched Tref Aberystwyth
Enw llawnC.P.D. Merched Tref Aberystwyth (Aberystwyth Town Ladies' Football Club)
LlysenwauThe Seasiders
MaesCoedlan y Parc
Aberystwyth
(sy'n dal: 5,000 (1,002 sedd))
CadeiryddDonald Kane
RheolwrCarwyn Phillips
CynghrairAdran Premier
Lliwiau Cartref
Lliwiau Oddi cartref

Mae'r clwb yn chwarae ei gemau cartref ym maes Coedlan y Parc, Aberystwyth, sydd â lle i 5,000.

Hanes golygu

Cyd-sefydlwyd y tîm dan ysbrydolaeth Ray Hughes oddeutu 2004 yn rhannol wedi iddo weld dyheuad a llwyddiant merched lleol, yn cynnwys ei ferch Lucy (Walker, bellach) i chwarae'r gêm. Roedd Hughes wedi hyfforddi timau merched i gystadlu yng Cystadleuaeth Bêl-droed Ian Rush a gynhaliwyd yn y dref yn flynyddol a Thwrnament Pêl-droed Merched a gynhaliwyd yn Aberhonddu[3] Bu Hughes yn reolwr ar y tîm am bron i ddegawd, hyd nes 2013-2015, ac yna, nôl eto wedi 2015 am gyfnod.

Gêm Gyntaf Cynghrair Merched Cymru golygu

Roedd y tîm yn un sylfaenwyr yr Uwch Gynghrair yn 2009. Chwarawyd gêm gyntaf erioed y Gynghrair newydd ar nos Wener, 24 Medi 2009 yng Nghoedlan y Parc yn erbyn Merched Llanidloes o flaen torf o bron i 400. Enillodd Aberystwyth y gêm, 2 - 0. Y person gyntaf i sgorio yn y Gynghrair oedd chwaraewraig Aberystyth, Sam Gaunt, a'r ail oedd Leanne Bray. Y person gyntaf i dderbyn carden felen oedd, Lucy Hughes, merch Ray Hughes.[3]

Sefydlu yn yr Uwch Gynghrair golygu

Bu tîm Merched Aberystwyth yn aelodau cyson o'r lîg nes ddisgyn adran ar ddiwedd tymor 2016-17.[4] Ar ôl dau dymor yn ail haen pêl-droed Cymru i Ferched, dyrchafwyd Merhed Aberystwyth nôl i Uwch Gynghrair Cymru ar gyfer tymor 2019-20.

Yn nhymor 2019-20 roedd Aberystwyth ar waelod yr Uwch Gynghrair yn safle rhif 8,[5] ond enillodd y tîm wobr 'Chwrae Teg' yr Uwch Gynghrair.[6]

Ar gyfer tymor 2021-22 cafwyd ad-drefniad ac ailfrandiad arall wrth newid stwythur pêl-droed merched Cymru i Adran Premier (yr Uwch Gynghrair) ac yna dau Adran ranbarthol (lefel 2) sef Adran Gogledd ac Adran De. Roedd Aberystwyth yn un o'r 8 tîm yn yr Adran Premier.

Cynhwyswyd C.P.D.M. Aberystwyth yn nhymor gyntaf yr Uwch Gynghrair a strwythur newydd pêl-droed merched Cymru pan lansiwyd Genero Adran Premier yn nhymor 2021-22.[7] Roedd gêm gyntaf Aberystwyth yn yr Adran newydd yn erbyn C.P.D. Tref Barri ar 5 Medi 2021 gydag Aberystwyth yn ennill 3-1. Sgorwraig gyntaf i Aberystwyth, a'r gôl gyntaf yn yr Adran Premier, oedd Elin Jones.[8]

Cit golygu

Mae'r cit cartref y tîm yn dilyn yr un patrwm â stribed tîm dynion C.P.D. Tref Aberystwyth sef crysau gwyrdd gyda trim du a gwyn, siorts du a sanau. Y stribed chwarae oddi cartrf yw crysau gwyn gyda trim gwyrdd, siorts gwyrdd a sanau.

Carfan golygu

Diweddarwyd 8 September 2023[9]

Nodyn: Diffinnir y baneri cenedlaethol o dan reolau FIFA. Gall y chwaraewyr, felly, fod o fwy nag un cenedl.

Rhif Safle Chwaraewr
  Margot Farnes
  Lucie Gwilt
  Rebecca Mathias (vice-captain)
  Bethan Roberts
  Elin Jones
  Kelly Thomas
  Niamh Duggan
  Emily Thomas
  Libby Isaac
  Shauna Chambers
  Ffiona Evans
  Gwenllian Jones
  Lily Moralee-Hughes
  Tania Wylde
  Imi Scourfield
  Amy Jenkins (captain)
Rhif Safle Chwaraewr
  Sian Evans
  Modlen Gwynne
  Lleucu Mathias
  Sophie Steele

Rheolwr y tîm ar gyfer 2020-21 oedd Carwyn Phillips.[10]

Dolenni allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Welsh Premier Women's Football League Launch". welshpremier.com. 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 July 2013. Cyrchwyd 26 September 2011.
  2. http://www.bbc.co.uk/cymru/chwaraeon/safle/peldroed_uwchgynghrair_cymru/pages/110827.shtml
  3. 3.0 3.1 "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-08-04. Cyrchwyd 2020-08-27.
  4. "League Tables - Welsh Premier Womens League". www.welshpremierwomensleague.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-07-20. Cyrchwyd 20 July 2019.
  5. https://twitter.com/theWPWL/status/1263498702305583104
  6. https://twitter.com/AberTownLadies/status/1273225338127081472
  7. https://www.bbc.co.uk/sport/football/58221934
  8. https://twitter.com/AdranLeagues/status/1434503175239880706
  9. "Aberystwyth Town Women's FC". Cyrchwyd 4 September 2023.
  10. https://www.facebook.com/AberystwythLadiesFc/photos/a.546906238717456/4264179633656746/