Cangen led-annibynnol o'r mudiad Prydeinig CND yw CND Cymru. Mudiad a sefydlwyd er mwyn ceisio dwyn perswâd ar lywodraeth y DU i gael gwared ar arfau niwclear yw'r Ymgyrch dros Ddiarfogi Niwclear (CND). [1]

CND Cymru
Enghraifft o'r canlynolbranch, sefydliad Edit this on Wikidata
Rhan oCND Edit this on Wikidata
GwladwriaethCymru Edit this on Wikidata
Rali gyntaf Cyngor Cenedlaethol Cymru CND yn Aberystwyth, 1961

Hanes golygu

Sefydlwyd cangen o CND yng Nghaerdydd ym 1958, ac ymddangosodd grwpiau gwrth-niwclear bach lleol mewn rhannau eraill o Gymru, megis Pwyllgor Arfau Niwclear Aberystwyth. Yn ddiweddarach daeth y grwpiau annibynnol hyn yn gysylltiedig â Chyngor Cenedlaethol Cymru CND. Sefydloedd CND Cymru fel olynydd i'r Cyngor Cenedlaethol, yn 1981. Mae CND Cymru yn gweithio dros heddwch a diarfogi rhyngwladol a byd lle mae'r adnoddau helaeth sydd bellach wedi'u neilltuo i filitariaeth yn cael eu hailgyfeirio i wir anghenion y gymuned a'r amgylchedd. Nod y sefydliad yw sicrhau byd di-drais, di-niwclear wedi'i seilio ar barch at hawliau dynol a hawliau bywyd. Mae CND Cymru yn gweithio trwy lobïo, cymryd rhan mewn gwrthdystiadau, trefnu digwyddiadau a chymryd rhan mewn gweithredu uniongyrchol di-drais. Mae hefyd yn ymwneud â gwaith addysg, gan dynnu sylw at faterion pwysig. Yn benodol, ffocws diweddar CND Cymru fu tynnu sylw at anlladrwydd System Arfau Niwclear Prydain, Trident.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Caledi, Cyfoeth ac Anniddigrwydd, 1951-1979" (PDF). CBAC. Cyrchwyd 15 Ebrill 2020.
  2. "CND Cymru (Organization) - National Library of Wales Archives and Manuscripts". archives.library.wales. Cyrchwyd 2020-04-15.

Dolenni allanol golygu