Cacennau maint bisgedi a gyflwynwyd yn y Deyrnas Unedig gan McVitie a Price ym 1927 yw Jaffa Cakes neu gacennau Jaffa. Daw eu henw o orennau Jaffa. Mae'r cacennau Jaffa mwyaf cyffredin yn rhai crwn, 54 mm (2⅛ modfedd) ar eu traws ac maent yn cynnwys tair haen: gwaelod o sbwng Genoa, haen o jam blas oren ac yna siocled dros honno.[1] Maent ar gael hefyd fel barrau neu mewn pecynnau bach, ac mewn maint mwy a llai.[2] Mae'r Jaffa Cakes gwreiddiol yn dod mewn pecynnau o 10, 20, 30 neu 40, ar ôl cael eu lleihau yn 2017 o 12 neu 24 y pecyn.[3]

Dau hanner cacen Jaffa

Gan na chofrestrodd McVitie's yr enw "Jaffa Cakes" fel nod masnach, mae archfarchnadoedd a gwneuthurwyr bisgedi eraill wedi creu cacennau tebyg o'r un enw.[4] Roedd dosbarthiad y cynnyrch fel cacen neu fisgeden yn rhan o dribiwnlys TAW ym 1991, pan ddyfarnodd y llys o blaid McVitie's drwy ddweud y dylid ystyried cacen Jaffa yn gacen at ddibenion trethu.[5] Yn 2012, nhw oedd y gacen neu'r fisgeden a oedd yn gwerthu orau Deyrnas Unedig.

Cynhyrchu golygu

Mae holl gacennau Jaffa McVitie's yn cael eu cynhyrchu yn y Deyrnas Unedig yn eu ffatri yn Stockport .[6] Mae'r ardal cynhyrchu cacennau Jaffa dros 4,000 m2 (1 erw) o faint ac mae'n cynnwys llinell gynhyrchu sydd dros filltir 1.6 km (1 filltir). [4] Oherwydd natur y cynnyrch a'i sawl haen wahanol, dyfeisiwyd cyflymyddion caledwedd arbennig i alluogi cyfrifiaduron i archwilio 20 cacen yr eiliad, sy'n digwydd o dan bedwar golau cymesur. [7]

Amrywiadau golygu

Er mai oren yw blas arferol cacennau Jaffa, mae blasau eraill wedi bod ar gael am gyfnod cyfyngedig, megis blas lemon a leim,[8] mefus[9] a chyrens duon . [10] Lansiodd McVities gacennau Jaffa blas pinafal am gyfnod yn gynnar yn 2020. [11]

Trethi golygu

Yn y Deyrnas Unedig, mae treth ar werth yn daladwy ar fisgedi â gorchudd siocled, ond nid ar gacennau â gorchudd siocled. [12] Buodd McVities yn amddiffyn dosbarthiad eu Jaffa Cakes fel cacennau mewn tribiwnlys TAW ym 1991, yn erbyn y dyfarniad mai bisgedi oeddynt oherwydd eu maint a'u siâp a'r ffaith y cân nhw eu bwyta yn lle bisgedi yn aml.[13] Mynnodd McVities mai cacen oedd y cynnyrch, a dywedir i'r cwmni ddod â chacen Jaffa enfawr i'r llys i wneud ei bwynt. Aseswyd y cynnyrch yn ôl y meini prawf canlynol: [14] [15]

  • Ystyriwyd mai gweddol ddibwys oedd enw'r cynnyrch.
  • Ystyriwyd bod y cynhwysion yn debyg i rai cacen, a oedd yn creu cytew tenau tebyg i gacen yn hytrach na thoes trwchus bisgedi.
  • Ystyriwyd mai gwead teisen sbwng oedd ganddo.
  • Mae'r cynnyrch yn caledu wrth fynd yn hen, yn union fel cacen.
  • Sbwng yw rhan sylweddol cacen Jaffa, o ran ei swmp a'i gwead.
  • O ran maint, mae'r gacen Jaffa yn debycach i fisgeden na chacen.
  • Roedd y cynnyrch fel arfer yn cael ei werthu ochr yn ochr â bisgedi eraill, yn hytrach na gyda chacennau.
  • Hysbysebir y cynnyrch fel byrbryd ac mae'n cael ei fwyta gyda'r bysedd fel bisgeden, yn hytrach na gyda fforc fel teisen. Roedd y tribiwnlys hefyd o'r farn y byddai plant yn eu bwyta o fewn ychydig gnoadau, yn union fel melysion.

Dyfarnodd y llys o blaid McVitie's y dylid ystyried cacennau Jaffa yn gacennau, sydd yna'n golygu na thelir TAW ar gacennau Jaffa yn y Deyrnas Unedig.[12] [16]

Mae Comisiynwyr Cyllid Iwerddon yn ystyried cacennau Jaffa yn gacennau hefyd am eu bod yn cynnwys lleithder yn fwy na 12%. O ganlyniad, codir y gyfradd TAW is arnynt (13.5% yn 2016).[17]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Labelling rules". Food Standards Agency. 9 April 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 July 2008.
  2. "Jaffa Cake's lemon squeezy bar". Thegrocer.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 September 2011. Cyrchwyd 25 August 2010.
  3. "Jaffa Cakes packet size reduced in latest 'shrinkflation' move". The Guardian. Cyrchwyd 29 May 2020.
  4. 4.0 4.1 Harry Wallop (6 May 2012). "Jaffa Cakes - definitely not biscuits - prepare to take on imitators". The Daily Telegraph. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 August 2012. Cyrchwyd 3 January 2013.
  5. "VAT Tribunal case LON/91/0160 (United Biscuits)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 February 2019. Cyrchwyd 9 February 2019.
  6. "The factory where life is sweet". Manchester Evening News. 17 April 2012. Cyrchwyd 24 July 2013.
  7. Mark Graves; Bruce Batchelor (2003). Machine Vision for the Inspection of Natural Products. Springer Science & Business Media. t. 403. ISBN 978-1-85233-525-0.
  8. "McVitie's Jaffa Cakes Lemon and Lime". Snackspot.org.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 July 2011. Cyrchwyd 22 June 2010.
  9. "McVitie's launches limited edition Strawberry-flavoured Jaffa Cakes". Talkingretail.com. 27 April 2009. Cyrchwyd 22 June 2010.
  10. "Jaffa Cakeover". The Daily Record. 12 December 2005. Cyrchwyd 22 June 2010.
  11. Abernethy, Laura (27 January 2020). "McVitie's launches new pineapple flavour Jaffa Cakes". Metro. Cyrchwyd 7 March 2020.
  12. 12.0 12.1 Lee, Natalie (2011). Revenue Law Principles and Practice. A&C Black. t. 1009. ISBN 9781847667663.
  13. "What you do – and don't – pay VAT on". Which? Magazine. 24 June 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 September 2012. Cyrchwyd 27 September 2012.
  14. "United Kingdom VAT & Duties Tribunals Decisions – Torq Ltd v Revenue and Customs [2005]". British and Irish Legal Information Institute. Cyrchwyd 27 September 2012.
  15. "Excepted items: Confectionery: The bounds of confectionery, sweets, chocolates, chocolate biscuits, cakes and biscuits: The borderline between cakes and biscuits". hmrc.gov.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 April 2013. Cyrchwyd 28 April 2013.
  16. "The borderline between cakes and biscuits". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 April 2013. Cyrchwyd 28 April 2013.
  17. "Archived copy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 January 2018. Cyrchwyd 7 January 2018.CS1 maint: archived copy as title (link)

Dolenni allanol golygu