Cred sydd yn ymwneud â natur a threfn y bydysawd yw Cadwyn Bod (Lladin: Scala naturae) sydd yn tarddu o'r neo-Platoniaid ac a oedd yn boblogaidd yn athroniaeth a diwinyddiaeth Gristnogol o'r Oesoedd Canol hyd at y 18g. Mae'n dal taw hierarchaeth ddwyfol sydd wedi pennu lle pob creadur mewn graddfa fawr yn ymestyn o'r uchaf i'r isaf.

Darlun o Gadwyn Bod yn Retorica Christiana gan Didacus Valdes (1579)

Mae'r gred yn tarddu o'r neo-Platonydd Plotinus, ar sail syniadau Platon ac Aristoteles.