Caerau Gaer

bryngaer sy'n rhannol ddilyn tirffurf y graig yn Sir Benfro

Bryngaer yn Sir Benfro yw Caerau Gaer. Cyfeiriad OS: 139161. Fe'i lleolir ar gwr pentref Llanddewi Efelffre, hanner ffordd rhwng Arberth a'r Hendy-gwyn ar Daf yn ne'r sir. Mae'n dyddio o Oes yr Haearn.

Caerau Gaer
Mathbryngaer sy'n rhannol ddilyn tirffurf y graig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.8125°N 4.6999°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN13981610 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwPE176 Edit this on Wikidata

Adeiladwyd y gaer hon ar fraich o fryn isel. Heb fod nepell i ffwrdd ceir caer arall o'r un cyfnod, sef Llanddewi Gaer. Nid yw safle naturiol Caerau Gaer cyn gryfed fel amddiffynfa â'r gaer arall. Fe'i hamgylchynnir yn gyfangwbl gan glawdd a ffos a cheir olion o glawdd a ffos arall ar y gwddw o dir i'r gogledd-ddwyrain. Ceir y brif fynedfa i'r gaer ar yr ochr orllewinol ond ceir mynedfa arall ar yr ochr ogledd-ddwyreiniol a hon, fe gredir gan yr archaeolegwyr, oedd y fynedfa wreiddiol.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. Christopher Houlder, Wales: an archaeological guide (Faber, 1978), tud. 178.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Benfro. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato