Cambrobrytannicae Cymraecaeve Linguae Institutiones et Rudimenta

Gramadeg Cymraeg yw Cambrobrytannicae Cymraecaeve Linguae Institutiones et Rudimenta, a gyhoeddwyd gan yr ysgolhaig Siôn Dafydd Rhys yn y flwyddyn 1592.[1] Mae'n ramadeg cynhwysfawr sy'n ymdrin â gramadeg yr iaith Gymraeg a rheolau Cerdd Dafod. Bu'n boblogaidd ymysg beirdd dadeni llenyddol y 18g, megis Goronwy Owen, ac y mae'n cynnwys awdl enghreifftiol o waith Simwnt Fychan i Birs Mostyn.[2]

Cambrobrytannicae Cymraecaeve Linguae Institutiones et Rudimenta
Enghraifft o'r canlynolgramadeg Edit this on Wikidata

Cynnwys golygu

Rhennir y llyfr 328 tudalen yn sawl rhan[1]:

i. Cyflwyniad yn Lladin i Syr Edward Stradling o Forgannwg, noddwr y gwaith.
ii. Rhagymadrodd yn Lladin gan Humphrey Prichard.
iii. 'Annerch i'r Cymry' gan yr awdur, yn Gymraeg.
iv. Gramadeg yr iaith Gymraeg.
v. Ymdriniaeth fanwl ar reolau Cerdd Dafod.
vi. Adran o gerddi Cymraeg enghreifftiol, o waith Beirdd yr Uchelwyr yn bennaf.

Llyfryddiaeth golygu

  • Siôn Dafydd Rhys. Cambrobrytannicae Cymraecaeve Linguae Institutiones et Rudimenta. Argraffwyd yn Llundain ar ran yr awdur gan Thomas Orwin.[3]

Ceir cyfieithiad Cymraeg o gyflwyniad Lladin Siôn Dafydd Rhys yn,

Ceir testun y rhagymadrodd Cymraeg gan Siôn Dafydd Rhys yn,

  • Garfield H. Hughes (gol.), Rhagymadroddion 1547-1659 (Caerdydd, 1951, tt. 63-82.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Thomas Parry, Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900 (Gwasg Prifysgol Cymru, 1944).
  2. Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).
  3. Ceri Davies, Rhagymadroddion a Chyflwyniadau Lladin 1551-1632.

Gweler hefyd golygu