Canolfannau Cymraeg i Oedolion

Corff sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i ddysgu Cymraeg, daeth i ben yn 2016 a'i addasu'n Canolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

Sefydlwyd chwe Chanolfan Cymraeg i Oedolion gan Lywodraeth Cymru yn 2006. Roeddent yn seiliedig ar gyn-ranbarthau ELWa a chawsant eu sefydlu yn y sefydliadau canlynol:

Canolfannau Cymraeg i Oedolion
Enghraifft o'r canlynolasiantaeth lywodraethol Edit this on Wikidata
Daeth i ben2016 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2006 Edit this on Wikidata

Trosglwyddo cyfrifoldeb golygu

Ar 1 Awst 2016, trosglwyddwyd cyfrifoldeb llawn am y sector Cymraeg i Oedolion i’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Ailstrwythurodd y Ganolfan Genedlaethol ddarpariaeth ledled Cymru, gan ddisodli’r chwe chanolfan ranbarthol Cymraeg i Oedolion flaenorol a’u 20 a mwy o isgontractwyr ag 11 o ddarparwyr.[1]

Darparwyr Cymraeg i Oedolion presennol a’u hardaloedd daearyddol:

Roedd y Canolfannau yn arbennigo mewn dysgu Cymraeg i oedolion ac yn cynnig cyrsiau ar bum lefel:

  • Mynediad
  • Sylfaen
  • Canolradd
  • Uwch
  • Hyfedredd

Cytunir yn gyffredinol taw gwersi dwys sydd fwyaf effeithiol wrth greu siaradwyr Cymraeg ac annogir dysgwyr i ddysgu felly. Ceir cyrsiau preswyl yn Nant Gwrtheyrn.

Mae'r Canolfannau Cymraeg i Oedolion wedi canolbwyntio yn arbennig ar ddatblygu hyfforddiant Cymraeg yn y gweithle a gwersi Cymraeg i'r teulu.

Cyfeiriadau golygu