Capel Gellimanwydd

capel yn Rhydaman, Sir Gaerfyrddin

Capel Gellimanwydd, neu'r "Christian" fel mae llawer yn ei alw, yw capel hynaf tref Rhydaman. Mae'n perthyn i'r Annibynwyr Cymraeg.

Capel Gellimanwydd
Mathcapel anghydffurfiol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadRhydaman Edit this on Wikidata
SirSir Gaerfyrddin
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.7925°N 3.9857°W Edit this on Wikidata
Cod postSA18 2LL Edit this on Wikidata
Map
Crefydd/EnwadAnnibynwyr Edit this on Wikidata

Mae gwreiddiau Gellimanwydd yn Y Betws ac yn mynd nôl i'r Argoed Fawr. Mae'r Argoed wedi bod yn dŷ tafarn, gwesty, fferm a tŷ anedd, ond ei bwysigrwydd mewn hanes yw'r ffaith mai dyma'r man cyfarfod cyntaf i'w ddefnyddio fel capel yn hytrach nag eglwys. Daeth yn eglur yn fuan bod y bwthyn yn rhy fach i'r cristnogion oedd yn cwrdd yno a symudodd un grŵp o bobl i adeilad ar Fferm Carregaman-Uchaf, sydd bellach yn 63 High Street. Gosodwyd sylfeini cyntaf Christian Temple. Yna, yn dilyn rhodd gan Mr Hugh Davies o fferm Carregaman-uchaf, adeiladwyd y capel yn High Street. Cafodd ei ail-adeiladu ym 1836 a'i ymestyn i'w gyflwr presennol yn 1865. Adabyddwyd Gellimanwydd fel Cross Inn Chapel, dyna'r enw ar y pentrefan bach oedd ar y groesffordd sydd heddiw yn nhref Rhydaman.

Llyfryddiaeth golygu

  • Owen, D. Huw, Capeli Cymru (Talybont: Y Lolfa, 2005), tt.167–8

Dolen allanol golygu