Mae Carwyn Tywyn (ganwyd 1975) yn delynor, cyfansoddwr a pherfformiwr. Ei enw bedydd yw Carwyn Fowler.

Carwyn Tywyn
Ganwyd1975 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethtelynor Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysg golygu

Ganwyd Carwyn yng Nghaerlŷr ac fe'i magwyd yn y Borth, Ceredigion gan fynychu Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig yn Aberystwyth. Graddiodd gyda doethuriaeth mewn Gwleidyddiaeth yn 2004 o Brifysgol Caeredin.

Gyrfa golygu

Bu'n academydd am ddwy flynedd cyn symud i'r Cynulliad Cenedlaethol fel Gohebydd Gwleidyddol i'r cylchgrawn Golwg.

Ers 2007, mae wedi treulio'r rhan fwyaf o'i gyrfa yn y sector gwirfoddol yng Nghymru, weithio'n cyfuno swydd ffurfiol gyda'i waith ar y delyn.

Mae'n gweithio fel Swyddog Achos Rhanbarthol dros Mencap Cymru yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru [1]

Cerddoriaeth golygu

Mae'n hoffi cerddoriaeth o bob math gan gynnwys canu gwerin, canu gwlad a bluegrass, clasurol a cherddoriaeth pop yr 1980au.

Dechreuodd Carwyn ganu alawon traddodiadol ar y delyn gwerin yn 1991. Cofrestrodd yn hunan-gyflogedig yn ffurfiol rhwng 1997-2003; 2005; 2010-11 a 2015-16. Yn y cyfnod cyntaf o hunan-gyflogaeth, ariannodd ei radd doethuriaeth trwy fynd allan i fysgio trwy ddeheudir Cymru a threfi agos yn Lloegr.

Mae wedi teithio'n helaeth ar draws Cymru a thu hwnt fel telynor. Mae wedi recordio 3 CD ac wedi cydweithio gyda nifer o artistiaid eraill. Mae wedi ennill yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac yn 2013 cafodd ei gynnwys yn llyfr Bruce Cardwell, The Harp in Wales[2].

Yn 2016, cafodd ddwy o'i alawon gwreiddiol ("Tyndyrn" ac "Afon Gwy") eu mabwysiadu ym mherfformiadau personol Robin Huw Bowen.

Cyngherddau Nodweddiadol golygu

Mae wedi perfformio yng Ngŵyl Werin y Cnapan (Ffostrasol), Gŵyliau’r Gwyniad a Ffidlan! (Y Bala), Lowender Perran (Cernyw), Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, y Gyngres Geltaidd (Inverness yn yr Alban ac An Oriant yn Llydaw), Gŵyl Abergwaun, Gŵyl Nôl a ‘Mlaen (Llangrannog), Cwpwrdd Nansi (Caerdydd) a Britfest (Hambwrg). Yn 2009, canodd y delyn yn y Cynulliad Cenedlaethol ar achlysur ymddeoliad Rhodri Morgan fel Prif Weinidog Cymru. Yn 2012 bu ar daith unigol o amgylch Ynysoedd Shetland.

Gwobr golygu

Yn 2013 enillodd Wobr Goffa John Weston Thomas ar gyfer y delyn gwerin yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, yn Ninbych.

Cydweithio Cerddorol golygu

Roedd Carwyn yn artist gwâdd ar CD Fflur Dafydd (CD Gwreiddiau 2012), SKEP (CD "CTRL-S" 2004) Ysbryd Chouchen (CD La La 1997), Ffynnon, a Dawnswyr Nantgarw.

Bu'n artist cefnogol ar ddechrau perfformiadau gan Dafydd Iwan, Yr Hwntws, Fflur Dafydd, Gareth Bonello, Gildas, Aros Mae a Dylan Fowler. Mae hefyd wedi canu mewn deuawd gyda Cormac de Barra ar un achlysur. Mae hefyd yn aelod o grwp "Sesiwn Caerdydd" ar gyfer y cystadleuaeth grwp offerynnol yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Bywyd personol golygu

Mae'n byw ym Mhorth Tywyn ar arfordir, Sir Gaerfyrddin. Mae'n briod â Kathryn ac yn dad i ddau plentyn, sef Heledd a Gwyn.

Mae'n gefnogwr brwd o AFC Wimbledon.

O ganlyniad i rhai o dreialon bywyd, dywed Carwyn ar ei wefan ei fod wedi magu diddordeb mewn iechyd meddwl ac adferiad. Ym Mis Mawrth, 2015, rhoddodd gorau i yfed alcohol, am resymau personol. Ers hynny, mae wedi bod yn aelod brwdfrydig o fudiad Club Soda ac yn ymddiriedolwr o Stafell Fyw Caerdydd. Mae wedi ei ddylanwadu gan y syniad o adferiad fel mater o gyfiawnder cymdeithasol: bod modd trawsnewid trealon a chamgymeriadau unigol mewn i budd cymdeithasol.

Disgyddiaeth golygu

  • Carwyn Tywyn - Awen ac Aber (Yn fyw yn Aberystwyth / Live at Aberystwyth)
  • Alawon o'r Stryd
  • Tanddwr

Cyfeiriadau golygu

  1. http://carwyntywyn.blogspot.co.uk/2013/09/cyfllwyniad-introduction.html
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-08-04. Cyrchwyd 2018-04-05.

Dolenni allanol golygu