Casglu Ffyrdd

llyfr (gwaith)

Casgliad o ddeg o ysgrifau gan R. T. Jenkins yw Casglu Ffyrdd. Fe'i cyhoeddwyd yn 1956 gan gwmni cyhoeddi Hughes a'i Fab, Wrecsam.

Cynnwys golygu

Roedd yr ysgrifau i gyd wedi ymddangos o'r blaen mewn cyfnodolion llenyddol, neu wedi cael ei ddarlledu ar y radio: dangosir eu ffynonellau gwreiddiol mewn cromfachau.

  • "Diwrnod yn Uwchaled" (Y Traethodydd, Hydref 1932)
  • "Tabor" (darllediad)
  • "Symffoni: 'Amwythig'" (Y Llenor, Haf 1934)
  • "Moreia (M.C.), Tre-fernard" (Y Traethodydd, Gorffennaf 1941)
  • "Taro Cis ar Ddyfed" (Y Llenor, Haf 1935)
  • "Braidd Gyffwrdd" (Y Llenor, Hydref–Gaeaf 1946)
  • "Yr Olwg Gyntaf" (Y Llenor, Gaeaf 1941)
  • "Glannau Loire" (Y Llenor, Haf a Gaeaf 1932)
  • "Casglu Ffyrdd" (Y Llenor, Hydref a Gaeaf 1940)
  • "Y Ferch o'r Sger" (Y Llenor, Hydref 1949)