Castell Caereinion (castell)

castell ym Mhowys

Castell mwnt a beili ym meddiant tywysogion teyrnas Powys oedd Castell Caereinion. Enwir y pentref a chymuned o'r un enw, sef Castell Caereinion, Powys, ar ôl y castell.

Castell Caereinion (castell)
Mathcastell mwnt a beili Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.644616°N 3.21694°W Edit this on Wikidata
Map

Codwyd Castell Caereinion fel canolfan filwrol i reoli cantref Caereinion gan Madog ap Maredudd, tywysog Powys, yn y flwyddyn 1156. Roedd y safle o fewn 4 milltir i dref Y Trallwng, yn nwylo arglwyddi Normanaidd Y Mers.

Daeth y castell i ddwylo'r tywysog Owain Cyfeiliog, ond yn 1165 torrodd ei air ag Owain Gwynedd a thywysogion eraill Cymru, a oedd wedi ymuno mewn cynghrair i wrthsefyll ymosodiadau Harri II o Loegr ar Gymru. Am fod y castell a thiroedd eraill Owain Cyfeiliog mor agos i un o brif ganolfannau arglwyddi'r Mers, ymddengys ei fod yn ofni eu colli, ond enillodd y Cymry fuddugoliaeth ysgubol ar y Saeson ym Mrwydr Crogen yn yr un flwyddyn a rhoddwyd ei gastell i un o feibion eraill Madog ap Maredudd, sef Owain Fychan. Ffôdd Owain Cyfeiliog ond daeth yn ôl gyda mintai gryf o filwyr arglwyddi'r Mers a dinistriodd y castell a lladd ei amddiffynwyr i gyd.

Ni lwyddodd Owain Fychan i ailgipio'r safle ac ni cheir cyfeiriad at y castell ar ôl hynny.

Dim ond gweddillion mwnt y castell sydd i'w gweld heddiw, ger Eglwys Sant Garmon yn y pentref.

Ffynonellau golygu

  • Paul R. Davies, Castles of the Welsh Princes (Abertawe, 1988)