Castell Fotheringhay

Sefydlwyd Castell Fotheringhay (hefyd Castell Fotheringay)[1] oddeutu 1100 ym mhentref Fotheringhay, tua thair milltir (5.6 km) i'r gogledd o dref marchnad Oundle, Swydd Northampton (cyfeiriad grid TL061930). Simon I de Senlis, Iarll Northampton a'i gododd ac yn 1113 trosglwyddwyd y castell i Dafydd I, brenin yr Alban pan briododd gweddw Simon. Daliodd tywysogion yr Alban eu gafal yn y castell tan ddechrau'r 13g pan ddygwyd ef gan John, brenin Lloegr.

Safle Castell Fotheringhay Castle o Afon Nene.

Ganwyd Rhisiart III, brenin Lloegr yma yn 1452.

Cyfeiriadau golygu