Castell Llanhuadain

castell rhestredig Gradd I yn Llanhuadain

Castell ym mhentref Llanhuadain, Sir Benfro yw Castell Llanhuadain (Cyfeirnod Arolwg Ordnans: Map OS 158: SN 073175). Mae'r safle yn cael ei gynnal gan Cadw.

Castell Llanhuadain
Mathcastell Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 12 g (dyddiad Gregoraidd cyn 1584) Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadLlanhuadain Edit this on Wikidata
SirSir Benfro
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr77.4 metr, 80 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.822371°N 4.797617°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganCadw Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethCadw Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwPE024 Edit this on Wikidata

Codwyd Castell Llanhuadain gan esgobion Tyddewi rhwng y 12g a'r 14eg. Codwyd y castell cyntaf ar y safle yn 1115 gan yr Esgob Bernard. Castell mwnt a beili nodweddiadol Normanaidd oedd y castell cynnar hwn, a dim ond y ffos a'r clawdd pridd sydd i'w gweld heddiw. Mae'r rhan fwyaf o'r adfeilion sydd i'w gweld ar y safle heddiw yn perthyn i'r ail gyfnod o adeiladu a gomisiynwyd gan yr esgob Adam de Houghton rhwng 1362 a 1389. Roedd hwn yn gastell llawer mwy sylweddol, gyda phedwar set o siambrau preswyl mawr ar y llawr cyntaf. Mae'n bosibl fod y tŵr porth mawr a welir yn y llun wedi'i ychwanegu fymryn yn ddiweddarach.

Arhosodd Rhisiart II, brenin Lloegr, yn Llanhuadain ar ei ymweliad i dde Cymru yn 1394. Erbyn hynny roedd y castell yn fwy o balas esgobol nag amddiffynfa. Fe'i defnyddid gan esgobion Tyddewi i reoli eu hystadau yn y rhan honno o Benfro. Roedd y stafelloedd yn foethus iawn. Roedd gan bob un o'r siambrau mawr stafell gysgu gyda thoiled: siambrau en suite o'r safon uchaf am y cyfnod.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. R.R. Davies, The Revolt of Owain Glyndŵr (Rhydychen, 1995). Tud. 17.

Dolenni allanol golygu