Gall cath ysgrithrog fod yn unrhyw aelod o nifer o grwpiau diflanedig o famaliaid ysglyfaethus a gafodd eu nodweddu gan ddannedd hir, siap crymgledd. Roedd dannedd llygad mwyaf yn ymestyn o'r geg hyd yn oed pan oedd ar gau. Daethpwyd o hyd i'r cathod ysgrithog ledled y byd o'r cyfnod Ëosen hyd at ddiwedd y cyfnod Pleistosen (42 miliwn o flynyddoedd yn ôl hyd at 11,000 o flynyddoedd yn ôl), sy'n golygu eu bod wedi bodoli am tua 42 miliwn o flynyddoedd.[1][2][3]

Penglog Smilodon wedi'i gastio â'i geg ar agor led y pennnnnnngh

Un o'r genera mwyaf adnabyddus yw Smilodon, sydd wedi dod i gael ei adnabod (er yn anghywir) fel 'teigr ysgithrog'.

Ar y cyfan, roedd cathod ysgrithrog yn fwy cadarn na chathod heddiw ac roedden nhw'n debyg iawn i eirth o ran corffolaeth. Yn wir, nid yw nifer o'r rhywogaethau sy'n cael eu galw'n 'gathod' ysgithrog yn perthyn yn agos i gathod Felidae modern. Credid bod y cathod ysgithrog yn helwyr gwych ac yn hela anifeiliaid fel diogod, mamothiaid, ac ysglyfaeth mawr arall fel eliffantod a rhinoserosiaid. Mae tystiolaeth o'r niferoedd a geir yn Pydewau La Brea Tar yn awgrymu bod y Smilodon, fel y llew modern, yn cigysydd cymdeithasol.[4]

Adluniad o Smilodon

Cyfeiriadau golygu

  1. "PaleoBiology Database: Smilodon, basic info". Paleodb.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-04-30. Cyrchwyd 2012-09-06.
  2. "PaleoBiology Database: Nimravidae, basic info". Paleodb.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-04-30. Cyrchwyd 2012-09-06.
  3. "PaleoBiology Database: Barbourofelidae, basic info". Paleodb.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-04-30. Cyrchwyd 2012-09-06.
  4. Carbone, C.; Maddox, T.; Funston, P. J.; Mills, M. G.; Grether, G. F.; Van Valkenburgh, B. (2009). "Parallels between playbacks and Pleistocene tar seeps suggest sociality in an extinct sabretooth cat, Smilodon". Biol. Lett. 5 (1): 81–85. doi:10.1098/rsbl.2008.0526. PMC 2657756. PMID 18957359. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=2657756.