Catrin Angharad Jones

cantores o Ynys Môn

Cantores gwerinol o Ynys Mon yw Catrin Angharad Jones. Mae’n athrawes gynradd yn Ysgol Y Graig, Llangefni.[1] Magwyd Catrin Angharad Jones yn Llanbedrgoch, Ynys Môn.

Catrin Angharad Jones
Enghraifft o'r canlynolbod dynol Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Yn 2009 enillodd wobr Goffa Lady Herbert Lewis yn Eisteddfod Meirion a'r Cyffiniau. Yr un flwyddyn enillodd gystadleuaeth alaw werin unigol yr Eisteddfod yr Urdd ac aeth ymlaen i ennill Ysgoloriaeth Bryn Terfel Urdd Gobaith Cymru, ysgoloriaeth yn werth £4,000.[2]

Mae hi wedi sefydlu, ac yn arwain tri chôr sef Hogia Llanbobman, Harmoni a Chôr Esceifiog.

Fe gyhoeddodd ddau lyfr o drefniannau gwerin sef 'Caneuon Tir a Môr SSAA' a 'Caneuon Gwerin Tir a Môr TTBB' drwy Cwmni Gwynn, ac mae hi wedi rhyddhau albwm o ganeuon gwerin Ynys Môn, 'Mae'r Ddaear yn Glasu' a recordwyd yn Stiwdio Swn, Bontnewydd.

Daeth i'r brig yng nghystadleuaeth cyflwyno unawd gwerin traddodiadol yn yr Wyl Ban Geltaidd yn 2010, Dingle ac yn 2018, Letterkenny. Cipiodd y wobr gyntaf hefyd fel prif leisydd y grwp gwerin, Bacsia yn yr Wyl yn 2018.

Bywyd personol golygu

Mae'n byw yng Ngaerwen gyda ei gŵr, Rhys a'u mab, Bleddyn.

Cyfeiriadau golygu

  1.  Catrin Angharad Jones. Eisteddfod Genedlaethol. Adalwyd ar 19 Gorffennaf 2018.
  2. Catrin yn cipio'r prif wobr , BBC Cymru, 11 Hydref 2009. Cyrchwyd ar 19 Gorffennaf 2018.

Dolen allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato