Darn o gerdyn neu bapur o ansawdd uchel sydd â darlun arno gyda'r nod o gyfarch, gyflwyno neges neu gyfleu teimlad yw cerdyn cyfarch. Er bod cardiau cyfarch fel arfer yn cael eu rhoi ar achlysuron arbennig fel penblwyddi, y Nadolig neu ŵyliau eraill, fel Sul y Mamau, maen nhw hefyd yn cael eu hanfon i fynegi diolch neu deimladau eraill (fel dymuno gwellhad buan). Mae cardiau cyfarch yn dod mewn amrywiaeth o steiliau ac fel arfer yn cael eu pecynnu gydag amlen. Mae mathau i'w cael sydd wedi'u mas-gynhyrchu yn ogystal â rhai wedi'u gwneud â llaw sy'n cael eu dosbarthu gan gwmniau mawr a bach.

Cerdyn cyfarch
Mathpaper product, llythyr Edit this on Wikidata
Yn cynnwysfold Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cardiau cyfarch ar werth.

Mae enghreifftiau o gardiau cyfarch yn cael eu hanfon yn Tsieina yn yr hen fyd, er mwyn anfon negesuon o ewyllys da ar ddechrau'r Flwyddyn Newydd, ac i'r Hen Aifft, ble roedd teimladau yn cael eu mynegi ar sgroliau papyrws. Erbyn dechrau'r 15g, roedd cardiau cyfarch a oedd wedi'u gwneud a llaw yn cael eu cyfnewid yn Ewrop. Roedd yr Almaenwyr yn anfon cyfarchion y Flwyddyn Newydd ar gardiau a oedd wedi'u hargraffu gyda thorluniau pren mor gynnar â 1400, a chardiau Sant Ffolant yn caqel eu cyfnewid mewn gwahanol rannau o Ewrop yn hanner cyntaf y 15g.[1]

Erbyn y 1850au, roedd y cerdyn cyfarch wedi'i weddnewid o eitem gymharol ddrud, oedd wedi'i gwneud â llaw, i fod yn ddull poblogaidd a fforddiadwy o gyfathrebu, yn bennaf o ganlyniad i ddatblygiadau ym maes argraffu, mecaneiddio, a gostyngiad yng ngraddfeydd postio gyda chyflwyno'r stamp.[2] Daeth y cynnydd yn yr arferiad o anfon cardiau Nadolig yn sgil hynny. Yn y 1860au, dechreuodd cwmniau fel Marcus Ward & Co, Goodall a Charles Bennett fas-gynhyrchu cardiau cyfarch a chyflogi arlunwyr adnabyddus fel Kate Greenaway a Walter Crane i ddylunio a darlunio'r cardiau.

Bu datblygiadau technolegol fel lithograffeg lliw yn 1930 yn ddylanwad mawr ar y diwydiant cardiau. Daeth cardiau cyfarch doniol, oedd yn cael eu hadnabod fel cardiau stiwdio, yn boblogaidd ar ddiwedd y 1940au a'r 1950au.

Cyfeiriadau golygu

  1. Michele Karl (January 2003). Greetings With Love: The Book of Valentines. Pelican Publishing. t. 19. ISBN 978-1-56554-993-7.Check date values in: |date= (help)
  2. The British Postal Museum & Archive — Rowland Hill’s Postal Reforms