Ceredig ap Cunedda

brenin Cymru

Yn ôl traddodiad, un o naw mab Cunedda, a ddaeth i ogledd Cymru o'r Hen Ogledd, a sefydlydd Teyrnas Ceredigion oedd Ceredig ap Cunedda (fl. o gwmpas canol y 5g).

Ceredig ap Cunedda
Ganwyd424, 420 Edit this on Wikidata
Gododdin Edit this on Wikidata
Bu farw453 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
TadCunedda Edit this on Wikidata
PriodMeleri ach Brychan Edit this on Wikidata
PlantIusay ap Ceredig, Sant ap Ceredig, Carranog, Ithel ap Ceredig Edit this on Wikidata

Hanes a thraddodiad golygu

Credir fod ei dad Cunedda wedi mudo gyda'i ddilynwyr o'r Hen Ogledd i ogledd Cymru tua'r flwyddyn 440 OC. Fel gweddill ei deulu, hannodd Ceredig o ardal Manaw Gododdin. Sefydlodd Cunedda Deyrnas Gwynedd a roddodd dir i'w feibion ar ôl gyrru allan y Gwyddelod. Daeth y wlad a adnabyddir fel Ceredigion i ran Ceredig, yn ôl yr hanes, ond mae haneswyr diweddar yn amau dilysrwydd y traddodiad hwnnw gan fod hanes cynnar Cymru yn frith o chwedlau tebyg a luniwyd i esbonio enwau lleoedd.

Os gwir yr hanes, roedd gan Ceredig wyth o frodyr, sef: