Ceredigion (cylchgrawn)

cyfnodolyn

Cylchgrawn hanes lleol blynyddol yw Ceredigion yn ymwneud â hanes Ceredigion, Cymru, a gyhoeddir gan Gymdeithas Hanesyddol Ceredigion.

Ceredigion
Enghraifft o'r canlynolcyfnodolyn, cylchgrawn Edit this on Wikidata
Rhan oCylchgronau Cymru Ar-lein Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1951 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1951 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganTransactions and archaeological record, Cardiganshire Antiquarian Society Edit this on Wikidata
Lleoliad cyhoeddiAberystwyth Edit this on Wikidata
Prif bwncSir Aberteifi Edit this on Wikidata

Sefydlwyd Cymdeithas Hynafiaethwyr Sir Aberteifi / Cardiganshire Antiquarian Association yn 1911 i hyrwyddo dealltwriaeth o hanes ac archaeoleg y sir. Yn 2002 newidiwyd yr enw i Gymdeithas Hanesyddol Ceredigion. Cyhoeddodd y Gymdeithas eu Trafodion (Transactions and Archaeological Record of the Cardiganshire Antiquarian Association) o 1911 hyd at 1938.

Ym 1951 cychwynnwyd Ceredigion: Cylchgrawn Cymdeithas Hynafiaethwyr Sir Aberteifi (Saesneg: Ceredigion: Journal of the Cardiganshire Antiquarian Society). Yn 2002 fe'i ail-enwyd yn Ceredigion: Cylchgrawn Cymdeithas Hanesyddol Ceredigion (Saesneg: Ceredigion: Journal of the Ceredigion Historical Society). Mae’n cynnwys erthyglau hanesyddol, adolygiadau ar lyfrau ynghyd â nodiadau ar y Gymdeithas. Saesneg yw’r iaith gan mwyaf ond mae rhywfaint o’r cynnwys yn Gymraeg.

Mae'r cylchgrawn wedi ei ddigido yn rhan o brosiect Cylchgronau Cymru Ar-lein gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Cysylltiadau allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.