Charles Ashton (actor)

actor (1884-1968)

Actor ffilm o Loegr oedd Charles Henry Ashton (18841968). Cafodd yrfa hir yn actio mewn ffilmiau Prydeinig yn y 1920au a'r 1930au.

Actiodd yn ei ffilm gyntaf yn 1920. Roedd yn adnabyddus yn ei ddydd fel actor mewn ffilmiau mud ond, fel llawer o actorion ffilm mud eraill, cafodd hi'n anodd addasu i ofynion y ffilmiau sain newydd o ddiwedd y 1920au ymlaen.

Serenodd gyda Malvina Longfellow yn y ffilm The Last King of Wales (1922), sy'n seiliedig ar hanes blynyddoedd olaf Llywelyn Ein Llyw Olaf.

Wedi ei yrfa fel actor ddod i ben daeth yn awdur nofelau ffuglen rhad.[1]

Ffilmiau (detholiad) golygu

  • Pillars of Society
  • Monty Works the Wires
  • A Will and a Way
  • Sam's Boy
  • Head of the Family
  • Master of Craft
  • The Last King of Wales
  • The Monkey's Paw
  • The Constable's Move
  • Sir or Madam

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Mellifont Press - British Pulp Fiction. Adalwyd ar 20 Chwefror 2016.
  • The Picturegoer's Who's Who (Odhams, argraffiad 1af 1933)

Dolenni allanol golygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
   Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.