Charles Homer Haskins

Hanesydd ac academydd Americanaidd oedd Charles Homer Haskins (21 Rhagfyr 187014 Mai 1937) sydd yn nodedig fel canoloesydd gwychaf ei oes, ac am ei feistrolaeth ar gymdeithas a diwylliant y Normaniaid yn enwedig.

Charles Homer Haskins
Ffotograff o'r Athro Charles Homer Haskins ym 1919.
Ganwyd21 Rhagfyr 1870 Edit this on Wikidata
Meadville, Pennsylvania Edit this on Wikidata
Bu farw14 Mai 1937 Edit this on Wikidata
Cambridge Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
AddysgDoethur mewn Athrawiaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
ymgynghorydd y doethor
  • Herbert Baxter Adams Edit this on Wikidata
Galwedigaetharbenigwr yn yr Oesoedd Canol, hanesydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auFellow of the Medieval Academy of America Edit this on Wikidata

Ganed ym Meadville, Pennsylvania, ac yn ei flynyddoedd cynnar dysgodd yr ieithoedd Lladin a Groeg. Aeth i Goleg Allegheny ym Meadville yn 12 oed, a throsglwyddodd i Brifysgol Johns Hopkins yn Baltimore, Maryland, i raddio yn 16 oed. Derbyniodd ei ddoethuriaeth ar bwnc hanes o Johns Hopkins ym 1890.[1]

Cychwynnodd ar ei yrfa fel tiwtor ym Mhrifysgol Wisconsin, Madison, a chafodd ei ddyrchafu'n athro llawn o fewn dwy flynedd. Ym 1902, symudodd i Brifysgol Harvard a chafodd ei benodi i sawl cadair athro yn yr adran hanes. Ym 1908 fe'i penodwyd yn ddeon Ysgol Ôl-raddedig y Celfyddydau a'r Gwyddorau,[1] a bu'n arloesol yn y swydd honno wrth lunio'r arfer Americanaidd fodern o addysgu hanes i fyfyrwyr ôl-raddedig.[2] Ym 1911 gweithiodd gyda'r Gymdeithas Hanesyddol Americanaidd i gyflwyno'r adroddiad The Study of History in Secondary Schools.[1]

Yn sgil ei benodi'n yr athro cyntaf i ddal Cadair Henry Charles Lea, proffeswriaeth newydd Harvard ar bwnc hanes canoloesol, daeth Haskins i'r amlwg fel prif hanesydd yr Oesoedd Canol yn yr Unol Daleithiau. Cyhoeddodd sawl cyfrol yn seiliedig ar ei ddarlithoedd a'i erthyglau academaidd, gan gynnwys The Normans in European History (1915) a Norman Institutions (1918). Yn ogystal â'i weithiau am y Normaniaid, nodir Haskins am ei astudiaeth o drosglwyddiad gwybodaeth ac ysgolheictod y Groegiaid a'r Arabaidd i Orllewin Ewrop yn y 12g a'r 13g.

Wedi diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, penodwyd Haskins yn bennaeth ar Adran Gorllewin Ewrop yn y Comisiwn Americanaidd i Drafod Heddwch, a chafodd ran felly yng Nghynhadledd Paris a llunio Cytundeb Versailles. Ei brif gyfraniad oedd ei gynllun i sefydlu Tiriogaeth y Saar dan fandad Cynghrair y Cenhedloedd.[2] Cydweithiodd â Robert H. Lord, pennaeth Adran Dwyrain Ewrop, mewn cyfres o ddarlithoedd a gesglir yn y gyfrol Some Problems of the Peace Conference (1920). Gwasanaethodd Haskins yn gadeirydd Cyngor Americanaidd y Cymdeithasau Dysgedig o 1920 i 1926, yn llywydd y Gymdeithas Hanesyddol Americanaidd ym 1922, ac yn llywydd yr Academi Ganoloesol o 1926 i 1927.[1]

Priododd Charles Homer Haskins â Clare Allen ym 1912. Ymddeolodd o Brifysgol Harvard oherwydd salwch ym 1931, a chwe mlynedd yn hwyrach bu farw yn Cambridge, Massachusetts, yn 66 oed.[1][2]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 (Saesneg) "Charles Homer Haskins" yn Encyclopedia of World Biography. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 13 Medi 2021.
  2. 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) Charles Homer Haskins. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 13 Medi 2021.