Charles McLaren, Barwn 1af Aberconwy

Roedd Charles Benjamin Bright McLaren, Barwn 1af Aberconwy PC QC YH (12 Mai, 1850 - 23 Ionawr, 1934), yn newyddiadurwr ac yn gyfreithiwr o'r Alban ac yn wleidydd Rhyddfrydol. Roedd, hefyd yn dirfeddiannwr ac yn ddiwydiannwr[1].

Charles McLaren, Barwn 1af Aberconwy
Ganwyd12 Mai 1850 Edit this on Wikidata
Caeredin Edit this on Wikidata
Bu farw23 Ionawr 1934 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, bargyfreithiwr Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 29fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 28ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 27ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 26ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata
TadDuncan McLaren Edit this on Wikidata
MamPriscilla Bright Mclaren Edit this on Wikidata
PriodLaura Elizabeth McLaren Edit this on Wikidata
PlantHenry Duncan McLaren, Florence Norman, Elsie Dorothea McLaren, Francis McLaren Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganwyd McLaren yng Nghaeredin, yn fab i'r gwleidydd Duncan McLaren a'i thrydedd wraig Priscila, merch i Jacob Bright a chwaer y gwladweinydd Rhyddfrydol John Bright.

Derbyniodd McLaren ei addysg ym Mhrifysgolion Heidelberg a Bonn, gan raddio o Brifysgol Caeredin gydag anrhydedd dosbarth gyntaf a gradd Meistr y Celfyddydau.

Teulu golygu

Priododd Laura Elizabeth Pochin yn Westminster ar 6 Mawrth 1877; roedd hi'n ferch i'r cemegydd Henry Davis Pochin a chawsant bedwar o blant. Bu'r teulu'n gyfeillion i James McNeill Whistler, ac roeddeent yn berchen sawl un o'i weithiau.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Who's Who in Wales, 1933; A G Reynolds & Co Ltd, Llundain; ail argraffiad 1933 tud 1
  2. "Charles Benjamin Bright McLaren, 1850-1934". University of Glasgow. Cyrchwyd 10 Ionawr 2010.