Santes Gatholig o'r Eidal oedd Chiara o Assisi (ganwyd Chiara Scifi yn Assisi, 16 Gorffennaf 1194; bu farw yn Assisi, 11 Awst 1253). Roedd yn cydweithredu â Ffransis o Assisi. Sylfaenodd urdd y Clariaid Tlodion.

Chiara o Assisi
GanwydChiara Offreduccio Edit this on Wikidata
16 Gorffennaf 1194 Edit this on Wikidata
Assisi Edit this on Wikidata
Bu farw11 Awst 1253 Edit this on Wikidata
Assisi Edit this on Wikidata
Galwedigaethlleian, awdur, religious writer, founder of Catholic religious community, cyfrinydd, athronydd Edit this on Wikidata
Swyddabades Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl11 Awst Edit this on Wikidata
MamOrtolana Edit this on Wikidata

Roedd yn ferch i uchelwr, ond ym Mawrth 1212, ar ôl iddi glywed Sant Ffransis yn pregethu, gadawodd ei chartref cyfoethog ac ymroi i ddilyn Crist mewn tlodi eithafol mewn grŵp o leianod Benedictaidd. Dilynodd ei chwaer, Santes Agnes o Assisi, ei hesiampl 16 diwrnod yn ddiweddarach. Ar ôl i Ffransis adfer capel San Damiano, Assisi, symudodd Chiara ac Agnes yno, lle ymunodd menywod eraill â nhw, gan gynnwys chwiorydd eraill, ffrindiau, ei modryb, a'i mam weddw. Yno yr arhosodd Chiara hyd ei marwolaeth. Roedd ei chymuned yn byw yn unol â rheolau a ysgrifennodd hi yn 1216–17. Ar 9 Awst 1253, ychydig cyn ei marwolaeth, rhoddodd y Pab Innocentius IV gydnabyddiaeth o’r urdd yr oedd hi wedi'i sefydlu (a elwir yn ddiweddarach yn Glariaid Tlodion).[1]

Cafodd ei chanoneiddio ym 1255 gan y Pab Alecsander IV. Yn 1958, fe'i cyhoeddwyd yn nawddsant teledu a thelathrebu gan y Pab Pïws XII.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Eidaleg) "Chiara d'Assisi: La sua vita"; adalwyd 8 Medi 2021