Christopher Salmon

Gwleidydd Ceidwadol yw Christopher Salmon (ganwyd Mehefin 1978)[1] a cyn Gomisiynydd Heddlu a Throseddu ar gyfer Heddlu Dyfed-Powys, yr ardal heddlu mwyaf yng Nghymru a Lloegr. Fe oedd deiliad cyntaf y swydd a fe'i hetholwyd ar 5 Tachwedd 2012.[2] Collodd y swydd yn etholiad Mai 2016.[3]

Christopher Salmon
Salmon yn 2013
Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
ar gyfer Heddlu Dyfed-Powys
Yn ei swydd
15 Tachwedd 2012 – 5 Mai 2016
Rhagflaenwyd ganSefydlwyd y swydd
Manylion personol
Plaid wleidyddolCeidwadwyr

Bywyd cynnar ac addysg golygu

Magwyd Salmon ar fferm ei deulu yn Llanandras, Powys, yr hynaf o bedwar plentyn.

Astudiodd Hanes Fodern ac Economeg yn Prifysgol Rhydychen cyn treulio blwyddyn yn Rwsia. Dychwelodd i'r DU yn 2002 ac ymunodd a'r Fyddin a dechrau ei hyfforddiant yn Sandhurst.

Fel swyddog yn nghatrawd Y Reifflwyr, aeth i Ogledd Iwerddon, Kosovo ac Iraq. Gadawodd y Fyddin i ddilyn gyrfa wleidyddol a bu'n gweithio mewn busnes ers 2008.[4]

Gwleidyddiaeth golygu

Safodd Salmon fel ymgeisydd Ceidwadol yn etholaeth Llanelli yn 2010, gan dderbyn 5,381 pleidlais (14.4%), y nifer uchaf o bleidleisiau i'r Ceidwadwyr yn Llanelli ers 1992, a'r canran uchaf o bleidleiswyr Ceidwadol ers 1997.

Cyfeiriadau golygu

  1.  Meet the Commissioner. Adalwyd ar 8 Mawrth 2016.
  2. "Police commissioner: Dyfed-Powys elects Conservative Christopher Salmon". BBC News. BBC. 16 November 2012. Cyrchwyd 20 November 2012.
  3. Ethol Comisiynydd Heddlu newydd dros ardal Dyfed Powys , BBC Cymru FYw, 8 Mai 2016.
  4. {{dyf gwe|url=http://www.christophersalmon.org/about-christopher-salmon/%7Cteitl=Gwefan[dolen marw] Personol - About Christopher|dyddiadcyrchiad=8 Mawrth 2015|}