Chwyldro yn yr Iseldiroedd Awstriaidd rhwng Hydref 1789 a Rhagfyr 1790 yn erbyn rheolaeth y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd oedd Chwyldro Brabant (Ffrangeg: Révolution brabançonne, Iseldireg: Brabantse Omwenteling).

Chwyldro Brabant
Brwydr Ghent (Tachwedd 1789).
Enghraifft o'r canlynolchwyldro Edit this on Wikidata
Dechreuwyd24 Hydref 1789 Edit this on Wikidata
Daeth i ben3 Rhagfyr 1790 Edit this on Wikidata
LleoliadIseldiroedd Awstriaidd Edit this on Wikidata
GwladwriaethIseldiroedd Awstriaidd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ysgogwyd y gwrthryfel gan ddiwygiadau Joseff II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig (t. 1765–90), a ddiddymodd sawl siarter ganoloesol a oedd yn diogelu hawliau ac ymreolaeth y taleithiau a'r Eglwys Gatholig. Ym 1787, wedi cyfnod byr o derfysgoedd a elwir y Chwyldro Bach, ffoes nifer o anghydffurfwyr gwleidyddol i Weriniaeth yr Iseldiroedd ac yno ffurfiasant fyddin o wrthryfelwyr. Ym 1789 cafodd y Joyeuse Entrée, a fu'n rheoli'r berthynas rhwng Dug ac Ystadau Brabant ers 1356, ei dirymu gan yr Ymerawdwr Joseff. Yn sgil y Chwyldro Ffrengig a Chwyldro Liège, goresgynnwyd yr Iseldiroedd Awstriaidd gan y gwrthryfelwyr a fuont yn drech na lluoedd y Hapsbwrgiaid ym Mrwydr Turnhout yn Fflandrys ar 27 Hydref 1789. Cychwynnodd gwrthryfeloedd bychain ar draws yr Iseldiroedd Deheuol, a datganwyd annibyniaeth Taleithiau Unedig Belg ar 11 Ionawr 1790.[1]

Derbyniodd y wladwriaeth newydd gefnogaeth oddi ar Deyrnas Prwsia, gelyn y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd, ond na chafodd ei chydnabod yn ffurfiol gan yr un wlad yn Ewrop. Datblygodd rhwygau ideolegol rhwng y chwyldroadwyr, a throdd y Gwladoliaethwyr ceidwadol, dan arweiniad Henri Van der Noot a chyda chefnogaeth yr Eglwys, yn erbyn y Vonckwyr rhyddfrydol dan arweiniad Jean-François Vonck. Codwyd braw ar y Vonckwyr a chawsant eu halltudio gan y Gwladoliaethwyr. Ail-gorchfygwyd y taleithiau gan luoedd Awstria erbyn diwedd y flwyddyn.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Brabant Revolution. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 9 Tachwedd 2020.